'Ddim yn prank': Actor Rownd a Rownd Kevin Williams i gyflwyno cyfres Bar Hansh

Kevin Williams

Yr actor Kevin Williams, sy'n adnabyddus am chwarae’r rhan Kelvin Walsh yn Rownd a Rownd, fydd y cyflwynydd ar gyfres realiti S4C, Bar Hansh.

Wrth drafod y cyfle, dywedodd Kevin: “Daeth o allan o nunlla i fod yn onest. Oni’n meddwl mai prank call gan un o ffrindiau fi o’dd o. 

"Oni ddim cweit yn coelio’r peth tan ges i e-bost reit ffurfiol wedyn, ac o'n i’n gwybod adeg yna bod o ddim yn prank call.”

Wedi’i gosod mewn ardal adnabyddus ar un o ynysoedd Gwlad Groeg, Zante, mae’r gyfres yn dilyn chwech o bobl ifanc wrth iddyn nhw geisio rhedeg bar Cymreig ar yr ynys.

Mae mwy yn y fantol nag erioed yn y gystadleuaeth eleni, wrth i’r cystadleuwyr gael y cyfle i gynyddu’r wobr i hyd at £10,000. 

Bydd y cyfanswm yn dibynnu ar eu perfformiad mewn cyfres o heriau.

Mae’r gyfres yn bennod newydd yn ei yrfa deledu, wrth iddo droi ei law at gyflwyno am y tro cyntaf ar ôl 27 mlynedd yn actio Kelvin yn Rownd a Rownd.

Dywedodd Kevin:“Dwi wedi cael y cyfle i neud rywbeth gwahanol na actio. Dwi wedi cael dod allan i Zante i gyflwyno Bar Hansh, felly fi fydd bos y bar allan yna a dwi’n edrych ymlaen!”

Ychwanegodd: “Y peth anodda’ oedd bod yn fi’n hun! Achos dwi wedi actio fel Kelvin Walsh am gymaint o amser. Doeddwn i ddim yn Kelvin fama, o'n i’n fi fy hun.”

Bydd Bar Hansh ar gael ar sianel YouTube Hansh, S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 22:00 o 27 Hydref ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.