Dau fachgen wedi eu hanafu mewn achos o drywanu yng Nghaerdydd
Mae dau fachgen wedi dioddef anafiadau o drywanu yn dilyn ymosodiad difrifol honedig yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Barc Lydstep, Gabalfa, ychydig cyn 19:00 nos Sul.
Cafodd y ddau fachgen lleol, sy’n 16 ac yn 17 oed, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad yw eu hanafiadau yn peryglu eu bywydau, ac mae un ohonynt bellach wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty.
Mae ditectifs yn chwilio am ddau berson oedd ar gefn beic Surron ym Mharc Lydstep a Rhodfa Gabalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac yn ôl swyddogion mae cyllell wedi cael ei darganfod fel rhan o'r ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant ei fod yn "achos pryder mawr pan fydd unrhyw un yn cael ei drywanu", ond bod oedran y ddau ddioddefwr yn debygol o boeni rhieni a phobl ifanc eraill yn yr ardal.
“Rydym yn cynnal ymholiadau helaeth er mwyn canfod y rhai sy’n gyfrifol cyn gynted â phosib, a bydd teledu cylch cyfyng yn allweddol i’r ymchwiliad,” meddai.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymwybodol o bryderon parhaus am ddefnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o e-feiciau a beiciau modur yn ardal Gabalfa.
Mae presenoldeb yr heddlu wedi cynyddu yn yr ardal, a bydd hynny’n parhau yn ystod y dyddiau nesaf.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 neu drwy eu gwefan, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600170643.
Mae modd hefyd cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
