Datgan sychder yn y gogledd yn dilyn cyfnod hir o dywydd poeth

Sychder

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi datgan sychder yng Ngogledd Cymru a Hafren Uchaf yn dilyn cyfnod o danau gwyllt eang a thywydd poeth estynedig. 

Mae'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio yn cynnwys Gogledd Gwynedd, Ynys Môn, De Gwynedd, Afon Dyfrdwy, Clwyd a'r Hafren Uchaf.

Bydd CNC yn datgan sychder pan nad oes digon o law na dŵr ar gael, sy’n arwain at effaith ar afonydd, dŵr daear, ecosystemau, amaethyddiaeth a rheolaeth tir.

Ychwanegodd CNC fod yr holl ddalgylchoedd sy'n weddill ar draws De-orllewin Cymru wedi symud o statws 'arferol' i statws 'cyfnod hir o dywydd sych'.

Fe gafodd newid statws ar gyfer De-ddwyrain Cymru ei gadarnhau gan CNC yr wythnos diwethaf, gan olygu bellach fod Cymru gyfan o dan amodau cyfnod hir o dywydd sych neu sychder.

Y gred yw mai dyma fydd y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers bron i 190 mlynedd, os na fydd glawiad sylweddol yn cyrraedd cyn diwedd y mis. 

Mae Gogledd Cymru a Hafren Uchaf wedi cael llai na 2% o'r glawiad disgwyliedig am y mis hyd yma, gyda llif afonydd ar draws rhannau helaeth o'r ardaloedd hyn bellach yn eithriadol o isel am yr adeg yma o'r flwyddyn. 

Yn ôl CNC, does dim glawiad sylweddol wedi bod mewn sawl ardal yn y gogledd ers 6 Gorffennaf.

'Effaith ddifrifol'

Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC: "Mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth rydyn ni wedi bod yn ei gael yr haf hwn bellach yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ar draws rhannau o Gymru.

"Mae'r tanau gwyllt diweddar ar draws Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru yn un o'r arwyddion mwyaf clir a gweladwy o ba mor sych yw ein tirweddau ni ar hyn o bryd. 

"Mae ein timau yn parhau i weithio'n agos gyda’r gwasanaethau tân ac achub, partneriaid lleol a rheolwyr tir i ymateb i'r digwyddiadau hyn a lleihau’r risgiau lle bo hynny'n bosibl."

Ychwanegodd y dylai pobl ddefnyddio dŵr yn "ddoeth".

Mae'r amodau sych hefyd wedi cynyddu’r risg o danau gwyllt yn sylweddol, gyda'r gogledd yn benodol wedi profi nifer o danau gwyllt mawr dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl yn parhau i roi gwybod am ddigwyddiadau eraill ledled y wlad.

Dywedodd CNC eu bod yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro amodau a chydlynu ymatebion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.