Darganfod corff dynes ar draeth y Rhyl

Traeth y Rhyl

Mae corff dynes wedi’i ddarganfod ar draeth y Rhyl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i i’r traeth tua 11.15 fore Sul yn dilyn adroddiad bod corff wedi’i ddarganfod yno.

Roedd Gwylwyr y Glannau, y Bad Achub ac Ambiwlans Awyr yn rhan o’r ymateb yn ogystal.

Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud bod teulu’r ddynes a’r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu bod y “farwolaeth yn cael ei thrin fel un nad oedd modd ei hesbonio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.