Cysylltiad Cymreig i fuddugoliaeth Arsenal
Mae cysylltiad Cymreig i fuddugoliaeth Arsenal wedi iddyn nhw ennill Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe ddechreuodd rheolwr y tîm ei yrfa hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru mwy na degawd yn ôl.
Mikel Arteta yw'r hyfforddwr cyntaf i fynd trwy system hyfforddi'r Gymdeithas i ennill Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe wnaeth Arsenal hynny am y tro cyntaf ers 22 o flynyddoedd.
Roedd cefnogwyr wedi casglu tu allan i stadiwm Emirates a thafarndai cyfagos er mwyn disgwyl i weld beth fyddai canlyniad y gêm yn erbyn Manchester City a Bournemouth.
Roedd angen i Manchester City ennill er mwyn cadw ei gobeithion yn fyw.
Ond gêm gyfartal oedd hi 1-1. Roedd hynny yn golygu mai Arsenal oedd yn sicrhau'r bencampwriaeth.
Dyma yw seithfed flwyddyn Arteta wrth y llyw ac yn ôl rhai mae'n profi'r hyn all ddigwydd os yw hyfforddwr yn cael amser gyda'i dîm.
Nawr mae gobeithion y cefnogwyr yn troi at y gêm yn erbyn Paris St-Germain ar ddiwedd y mis. Os byddan nhw yn ennill y gêm honno byddant wedi gwneud y dwbl ac ennill Cynghrair y Pencampwyr yn ogystal.
Llun:Reuters

