Cynnal ymchwiliad i ddamwain trên yn Nwyrain Sussex nos Iau

tren dwyrain sussex

Mae'r ymchwiliad i ddamwain trên yn Nwyrain Sussex, Lloegr, nos Iau wedi dechrau.

Cafodd dau o bobl eu hanafu'n ddifrifol wedi i'r trên ddod oddi ar y cledrau ger tref Lewes.

Fe gafodd 18 yn rhagor o bobl eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Fe gafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys parafeddygon a’r gwasanaeth tân, eu galw i’r ddamwain. 

Roedd lluniau o’r safle yn dangos cerbydau’r trên wedi gwyro i’r ochr gydag aelodau o'r gwasanaethau achub ar ben rhai o’r cerbydau.

Fe wnaeth y cwmni trenau Southern Rail gadarnhau bod trên wedi dod oddi ar y cledrau yn yr ardal rhwng Haywards Heath a Lewes.

O ganlyniad, doedd dim trenau’n gallu teithio rhwng Brighton a Lewes, Haywards Heath a Lewes, na Seaford/Eastbourne ar y pryd.

Mae peth oedi'n parhau i rai teithwyr yn yr ardal fore dydd Gwener.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Heidi Alexander, ei bod yn “bryderus iawn” am y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.