'Angen gofyn cwestiynau': S4C yn amddiffyn drama newydd am Neil Foden
Mae S4C wedi amddiffyn eu penderfyniad i gomisiynu drama am achos Neil Foden, y cyn-brifathro amlwg o'r gogledd gafodd ei garcharu am gam-drin pedair merch ifanc yn rhywiol.
Cyhoeddodd y sianel ddydd Iau y bydd cyfres tair rhan yn cael ei darlledu'r flwyddyn nesaf "yn archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd" i atal y pedoffeil, fydd yn cael ei bortreadu gan yr actor Mark Lewis Jones.
Fe ysgogodd y penderfyniad don o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai arbenigwyr ym maes diogelwch plant hefyd yn codi pryderon bydd y gyfres yn tynnu gormod o sylw at Foden a'i bod yn dod allan yn "rhy fuan" wedi'r achos.
Ond fore Gwener mynnodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, bod y cynhyrchwyr wedi bod mewn cysylltiad â goroeswyr ac mai'r merched hynny fydd "ffocws" y ddrama, yn ogystal â'r amgylchiadau a alluogodd i'r cyn-brifathro gyflawni ei droseddau.
"Mae'n naturiol bod pobl yn codi pryderon am achos mor ddifrifol â hwn," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Radio Cymru.
"Ond mae'r ffocws yn y ddwy flynedd sydd wedi bod yn datblygu'r ddrama wedi bod ar y goroeswyr, ac yna'r methiannau sefydliadol sydd wedi bod, gan olygu ei fod wedi gallu cario 'mlaen i wneud y troseddau yma."
Yn ôl S4C bydd y ddrama, sy'n cael ei datblygu dan y teitl gweithredol Y Pennaeth, yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin, gyda'r cymeriadau, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol.
Bydd yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ble gafodd y cyn-bennaeth dylanwadol, fu'n rhedeg Ysgol Friars ym Mangor am flynyddoedd, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024.
Fe fydd y rhaglen hefyd yn gwneud defnydd o adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwraig Jan Pickles, a amlinellodd dros 50 o "gyfleon wedi'u methu" i atal Foden gan swyddogion Cyngor Gwynedd a chyrff cyhoeddus eraill.
'Sgyrsiau' gyda goroeswyr
Dywedodd Mr Iwan y bydd y ddrama'n rhoi sylw i "sut oedd y sefyllfa yna wedi dod i fodolaeth, a sut roedd o wedi gallu parhau cyhyd."
Ychwanegodd bod llais y dioddefwyr wedi bod yn rhan o'r broses, a bod "sgyrsiau wedi bod efo'r goroeswyr drwy grŵp cefnogi'r goroeswyr drwy gydol y datblygu yma."
Fe gafodd amseru'r rhaglen ei ddylanwadu gan y ffaith bod gwendidau sefydliadol yn "bodoli ar y funud," meddai, gan ddweud mai dyma'r amser i ofyn cwestiynau ynghylch y rheiny.
"O ran yr amseru, erbyn y bydd o'n cael ei ddarlledu bydd sawl blwyddyn ers yr arestio a'r ddedfryd," meddai.
"Ond mae'r gwendidau [sefydliadol] 'ma'n bodoli ar y funud... Ac yr adeg yma mae angen gofyn cwestiynau, 'dan ni'n teimlo, er mwyn rhoi'r ffocws ar hynny - y methiannau sefydliadol yna wnaeth fethu'r dioddefwyr yn eu tro."
'Anesmwyth'
Yn gynharach, dywedodd y cyn-wleidydd Helen Mary Jones, sy'n ymgynghorydd ym maes diogelu plant, ei bod yn teimlo yn "anesmwyth" am y rhaglen ac yn amau ei bod yn dod yn "rhy fuan" wedi i achos Foden ddod i'r amlwg.
Er ei bod yn cydnabod y gallai drama wedi ei chynhyrchu'n sensitif wneud gwahaniaeth a rhoi llwyfan i brofiadau dioddefwyr, dywedodd ei bod yn poeni y byddai'n rhoi gormod o sylw i'r cyn-brifathro.
"Dwi'n becso i ba raddau bydd llais goroeswyr ynghanol hyn i gyd," meddai.
"Efallai ei bod hi'n bosib bod y math yna o raglen yn ei bortreadu [Foden] fel rhyw fath o anti-hero mewn ffordd.
"Dwi'n teimlo'n anesmwyth ond mae 'na flwyddyn i fynd - dwi'n mawr obeithio bydd y sawl sy'n datblygu'r rhaglen yn sicrhau eu bod yn gwrando ac yn rhoi lleisiau'r merched sydd wedi dioddef ynghanol y rhaglen."
Mae Y Pennaeth yn cael ei ddatblygu gan Cynyrchiadau MOJO ar gyfer S4C. Llinos Gerallt yw awdur y ddrama, gyda Llyr Morus yn cynhyrchu a Huw Chiswell yn cyfarwyddo.