Cynnal digwyddiad chwaraeon mawr cyntaf erioed ar lawnt y Tŷ Gwyn

ufc ty gwyn

Mae digwyddiad pencampwriaeth Ultimate Fighting Championship (UFC) wedi dechrau ar lawnt y Tŷ Gwyn ym mhrifddinas America.

Dyma'r digwyddiad chwaraeon proffesiynol cyntaf erioed i gael ei gynnal yng nghartref swyddogol Arlywydd yr Unol Daleithiau

Roedd pryderon iechyd a diogelwch wedi codi ar gyfer noson agoriadol y digwyddiad ar ôl i fellt ymddangos yn yr awyr wrth i’r ddau ymladdwr cyntaf gerdded allan i’r gawell.

Roedd y bencampwriaeth wedi wynebu pryderon am dywydd eithafol drwy gydol y dydd, ond fe aeth y digwyddiad yn ei flaen ar ôl oedi cychwynnol.

Fe ddechreuodd y noson gyda’r Arlywydd Trwmp yn cerdded o’r Tŷ Gwyn i mewn i arena'r bencampwriaeth ochr yn ochr â Dana White, sef prif weithredwr yr UFC. 

Fe welwyd awyrennau milwrol yn hedfan yn yr awyr cyn i'r ymladdwyr ddechrau paffio.

Roedd disgwyl tua 4,300 o bobl i fynychu’r digwyddiad ymladd cymysg, a hynny drwy wahoddiad yn unig ar Lawnt y De yng nghartref yr arlywydd. 

Roedd 85,000 o gefnogwyr eraill yn cael dilyn yr ymladd mewn parth i gefnogwyr gerllaw.

Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu i gyd-fynd â phen-blwydd Trump yn 80. Hefyd mae'n Ddiwrnod y Faner yn yr Unol Daleithiau sy'n rhan o ddathliadau 250 mlynedd ers sefydlu America fel gwlad. 

Wrth i Trump gamu allan o'r Tŷ Gwyn, fe ganodd y dorf “Pen-blwydd Hapus” i’r arlywydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.