Cannoedd o bysgod wedi eu canfod yn farw mewn parc yng Nghaerdydd

Pysgod marw

Mae cannoedd o bysgod wedi cael eu canfod yn farw mewn parc yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn ymchwilio i lygredd yn Nant y Rhath sydd wedi arwain at “farwolaeth cannoedd o bysgod o wahanol rywogaethau”.

Cafodd y digwyddiad ei adrodd gyntaf gan aelodau o’r cyhoedd ddydd Iau 11 Mehefin.

Mae lluniau a rannwyd gan CNC yn dangos pysgod marw yn yr afon.

Daw hyn ar ôl i luniau gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos yr afon, sy’n rhedeg drwy Barc y Rhath, yn ymddangos fel pe bai wedi troi’n wyn.

Dywedodd CNC eu bod nhw’n ymchwilio i weld a allai marwolaethau’r pysgod fod wedi cael ei achosi gan rywbeth gwenwynig yn cael ei arllwys i lawr draen dŵr wyneb, neu gan lygredd ar raddfa fwy.

Mae swyddogion wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn allai fod wedi digwydd yn Nant y Rhath i gysylltu.

Mae’n nhw awgrymu y dylai perchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid allan o’r dŵr rhag ofn.

Ychwanegodd CNC fod pysgod byw wedi cael eu gweld yn y nant gyfagos yng Ngerddi Waterloo ers i’r achos o lygredd gael ei adrodd.

“Gall cemegau niweidiol, olewau, paent, neu gynnyrch glanhau achosi difrod difrifol i fywyd gwyllt lleol ac ecosystemau os ydyn nhw’n cael eu gwaredu yn y ffordd anghywir,” meddai CNC.

Mae’r corff yn gofyn i unrhyw un a welodd rywbeth “anarferol” yn ardal Nant y Rhath — gan gynnwys os oedd rhywun wedi arllwys sylweddau i mewn i ddraen — neu sydd â gwybodaeth am yr hyn allai fod wedi achosi marwolaethau’r pysgod, i gysylltu â’i swyddogion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.