Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2026
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r pedwar sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2026.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ym mis Awst, mewn cystadleuaeth sy’n cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Y rhai sydd wedi dod i’r brig eleni yw Jonathan Davies o Lwchwr ger Abertawe, Caroline Jones o Wynedd, Kierion Lloyd o ardal Wrecsam a Paige Morgan o’r UDA.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd ddydd Mercher 5 Awst, gyda Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd yn beirniadu.
Yn ôl y beirniaid, mae gan y pedwar “straeon gwych i’w rhannu”, ac maen nhw wedi eu canmol am ddysgu’r Gymraeg i “safon ardderchog”.
“Maen nhw wedi cofleidio’r Gymraeg ac wedi ymroi i ddiwylliant Cymru,” meddai’r beirniaid.
“Maen nhw’n bobl arbennig, yn llawn brwdfrydedd ac angerdd dros y Gymraeg, yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac yn cefnogi eraill i fwynhau’r iaith.
“Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw, a phob dymuniad da i’n holl gystadleuwyr.”
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 13:30 ddydd Mercher 5 Awst.
Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn, rhodd gan Gymdeithas Waldo, ynghyd â £300 gan Geraint a Siân James o Siop Awen Teifi, Aberteifi.
Bydd y tri arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Jonathan Davies
Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â’i dreftadaeth a’i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.
Astudiodd Gerddoriaeth yno, gan gwblhau gradd a gradd meistr cyn hyfforddi fel athro drwy gwrs TAR.
Yn 2020 dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan wneud cynnydd cyflym a dod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
Trosglwyddodd ei sgiliau fel athro a chyfathrebwr yn naturiol i’w iaith newydd.
Aeth ymlaen i ddechrau PhD ym maes Ieithyddiaeth ac Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn addysg.
Mae’n hwyluso grŵp dysgwyr ifanc, yn dysgu ysgrifennu creadigol, ac yn sylfaenydd podlediad Ymchwil y Gweilch.
Mae hefyd yn rhan o dîm yn datblygu offeryn dwyieithog i asesu hygyrchedd testun.
Mae’n ymrwymedig i gefnogi dysgwyr a chryfhau’r Gymraeg mewn addysg a chymunedau.
Caroline Jones
Daw Caroline Jones o Lundain yn wreiddiol, a daeth yn ymwybodol o’r Gymraeg pan gyfarfu â’i gŵr ugain mlynedd yn ôl.
Yn 2004 symudodd i ogledd Cymru, lle dechreuodd ddysgu’r iaith wrth astudio ar gyfer MSc a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Bellach mae’n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae ei chydweithwyr yn ei chanmol am ei hymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle, ac mae’n cynnig gwasanaethau dwyieithog i gleifion, yn enwedig plant a phobl ifanc.
Mae ei phlant yn mynychu ysgol Gymraeg, ac mae hi’n parhau i ddatblygu ei sgiliau ar lefel Uwch.
Yn 2026 enillodd deitl Dysgwr y Flwyddyn lefel Canolradd/ Uwch Betsi Cadwaladr.
Mae Caroline yn falch o’r Gymraeg, gan ei bod wedi agor drysau i brofiadau a safbwyntiau newydd, ac mae bellach yn llysgennad i annog eraill i’w defnyddio.
Kierion Lloyd
Cafodd Kierion Lloyd ei eni yng Nghymru i deulu di-gymraeg, a threuliodd ei blentyndod yn symud yn aml oherwydd gwaith ei dad yn y fyddin.
O ganlyniad, ni chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg yn ifanc.
Tra roedd yn byw yn Seland Newydd, teimlai siom nad oedd yn gallu siarad yr iaith.
Yn 2018, dechreuodd ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, ac mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau.
Mae’r Gymraeg wedi cryfhau ei gysylltiad â diwylliant a hanes Cymru, ac wedi magu hyder ynddo.
Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Gymraeg, ac mae’n mynychu gigs ac Eisteddfodau’n rheolaidd.
Mae hefyd yn cyfrannu at wefan geiriau caneuon, gan helpu i wneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch, ac mae’n benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu.
Paige Morgan
Pan oedd yn ifanc, roedd Paige Morgan yn breuddwydio am ysgrifennu, ond rhoddodd y gorau i’r syniad yn ei harddegau.
Yn ddiweddarach, ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, daeth y freuddwyd honno’n fyw eto mewn ffordd annisgwyl.
Yn 2024 cafodd gyfle i ddysgu cynganeddu, ac fe ffynnodd drwy fod yn barod i wneud camgymeriadau a dysgu ohonynt.
Mae bellach yn rhan o Gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru a Barddas, sef y fenyw Americanaidd gyntaf i wneud hynny.
Yn 2025 dechreuodd ysgrifennu erthyglau i Lingo360 ac wedyn i Golwg, gan ganolbwyntio ar wleidyddiaeth Americanaidd.
Mae hefyd yn ysgrifennu straeon byrion sydd wedi ennill cystadlaethau.
Er ei bod yn byw yn America, mae’n cyfrannu at y Gymraeg ac yn benderfynol o ysbrydoli eraill drwy’r iaith.

