Cynllun i gynyddu nifer y chwaraewyr pêl-droed yng Nghymru i 160,000 erbyn 2036
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu nifer y chwaraewyr pêl-droed cofrestredig yng Nghymru o 120,000 i 160,000 erbyn 2036.
Byddai hynny'n golygu cynnydd o 40,000 o chwaraewyr, neu tua 33%, dros y 10 mlynedd nesaf.
Fel rhan o'u strategaeth newydd 10 mlynedd, mae'r gymdeithas hefyd eisiau sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at gyfleusterau pêl-droed o safon o fewn 15 munud i'w cartrefi.
Mae'r targedau'n rhan o strategaeth newydd CBDC, Llunio Cymru, sy'n nodi blaenoriaethau'r corff ar gyfer y cyfnod rhwng 2026 a 2036.
Un o'r prif amcanion yw cynyddu nifer y menywod a'r merched sy'n chwarae pêl-droed o leiaf 20,000, yn ogystal â haneru nifer y chwaraewyr rhwng 12 ac 17 oed sy'n rhoi'r gorau i'r gamp.
Mae CBDC hefyd yn bwriadu cyflwyno prosiectau penodol yn y 100 cymuned fwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru, gan ehangu cyfleoedd i bobl anabl chwarae pêl-droed.
Cynyddu nifer y chwaraewyr
Daw'r strategaeth yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n chwarae pêl-droed yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl ffigurau CBDC, roedd tua 76,000 o chwaraewyr cofrestredig yng Nghymru yn 2021, ond cyrhaeddodd y nifer 120,000 ym mis Mai eleni.
Mae hynny'n gynnydd o tua 58% mewn pum mlynedd.
Mae ffigurau Sefydliad Pêl-droed Cymru hefyd yn dangos bod nifer y chwaraewyr cofrestredig wedi cynyddu 21% ers 2022.
Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer y menywod a'r merched sy'n chwarae wedi cynyddu 47%, tra bod cynnydd o 36% ymhlith chwaraewyr ifanc a 114% ymhlith chwaraewyr anabl.
Ond mae CBDC yn cydnabod bod cadw pobl ifanc yn chwarae'r gamp yn parhau'n her, yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau.
O dan y strategaeth newydd, y nod yw haneru nifer y chwaraewyr rhwng 12 ac 17 oed sy'n rhoi'r gorau i chwarae.
Cyfleusterau o fewn 15 munud o deithio
Mae gwella mynediad at gaeau a chyfleusterau pêl-droed hefyd yn rhan ganolog o'r cynllun.
Uchelgais CBDC yw sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at gyfleusterau pêl-droed o ansawdd o fewn 15 munud o deithio, gan roi blaenoriaeth i'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.
Ond mae'r targed yn dod ar adeg pan fo pryderon am brinder caeau addas i ateb y galw cynyddol.
Ym mis Mehefin, rhybuddiodd CBDC a Sefydliad Pêl-droed Cymru fod angen buddsoddiad o £150 miliwn dros bum mlynedd er mwyn gwella cyfleusterau ledled y wlad.
Yn ôl eu hasesiad, mae prinder o 51 o gaeau artiffisial 3G maint llawn yng Nghymru ar hyn o bryd, a gallai'r diffyg gynyddu i 119 erbyn 2030 os bydd nifer y chwaraewyr yn parhau i dyfu.
Mae cynlluniau cyfleusterau lleol eisoes wedi'u llunio ar gyfer pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gyda'r nod o nodi lle mae'r angen mwyaf am gaeau newydd a gwelliannau i gyfleusterau presennol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys datblygu caeau 3G, gwella caeau glaswellt naturiol, ystafelloedd newid a chyfleusterau clybiau.
Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi gosod uchelgais i sicrhau bod cyfleusterau o safon o fewn 15 munud i bob cymuned erbyn 2030.
'Dileu'r rhwystrau i chwarae'
Dywedodd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney, fod y strategaeth newydd yn ymwneud â chreu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn pêl-droed.
"Mae Llunio Cymru yn ein hymrwymiad i adeiladu Cymru hyderus, llwyddiannus a chynhwysol trwy bêl-droed," meddai.
"Mae'n strategaeth a luniwyd gan y bobl sy'n gwneud ein gêm yn arbennig – chwaraewyr, gwirfoddolwyr, clybiau, hyfforddwyr, dyfarnwyr, cefnogwyr a chymunedau ledled y wlad.
"Dros y degawd nesaf, byddwn yn ehangu cyfleoedd ar bob lefel o'r gêm, gan anelu at lwyddiant y gall y genedl gyfan ei rannu."
Dywedodd Ben Field, Pennaeth Pêl-droed Llawr Gwlad CBDC, fod y cynllun yn ceisio gwneud y gamp yn fwy hygyrch.
"Rydym am ddileu'r rhwystrau i chwarae, cefnogi'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud y gêm yn bosibl, gwella cyfleusterau a helpu clybiau i ddod yn angorau hyd yn oed cryfach yn eu cymunedau," meddai.
"Ein ffocws yw creu pêl-droed diogel, croesawgar a phleserus i bawb."
Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys targedau ar gyfer timau cenedlaethol Cymru.
Mae CBDC am weld timau dynion a menywod Cymru yn cymryd rhan mewn o leiaf hanner y prif dwrnameintiau rhyngwladol, gan gynnwys uchelgais i gyrraedd y gemau ail gyfle yn Ewro 2028 a Chwpan y Byd Menywod 2035.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys sefydlu pedair academi elît o fewn clybiau proffesiynol, gyda'r nod o ddatblygu rhagor o chwaraewyr i gynrychioli Cymru.
Dywedodd CBDC fod dros 3,000 o gyfraniadau wedi'u derbyn gan glybiau, chwaraewyr, gwirfoddolwyr ac eraill wrth lunio'r strategaeth.