Cynllun ffermio newydd: Bron i hanner yr hawliadau yn dal dan yr hen system daliadau
Mae bron i hanner yr hawliadau cymorth ffermio yng Nghymru eleni wedi cael eu gwneud dan yr hen Gynllun Taliad Sylfaenol, er bod cynllun newydd Llywodraeth Cymru bellach ar waith.
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, fe wnaeth 8,038 o ffermwyr hawliad dan yr hen system daliadau, o gymharu ag 8,104 dan Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Er bod nifer yr hawliadau bron yn gyfartal, mae llawer mwy o dir yn gysylltiedig â’r hawliadau dan y cynllun newydd.
Roedd hawliadau dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cynnwys 905,545 hectar o dir, o gymharu â 384,399 hectar dan yr hen system daliadau.
Mae hynny’n golygu bod tua 70% o’r tir a gafodd ei gynnwys yn yr hawliadau dan y ddau gynllun yn gysylltiedig â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Nid yw’r ffigur hwn yn cyfeirio at holl dir amaethyddol Cymru.
Ar gyfartaledd, roedd hawliad dan y cynllun newydd yn ymwneud â thua 112 hectar, o gymharu â thua 48 hectar dan y Cynllun Taliad Sylfaenol.
Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi dod yn brif gynllun cymorth Llywodraeth Cymru i ffermwyr o 2026 ymlaen.
Mae’n gynllun ar gyfer y fferm gyfan. Mae ffermwyr yn cael taliad am gyflawni cyfres o gamau sy’n berthnasol i’w fferm, gyda’r nod o gefnogi busnesau ffermio a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Gall ffermwyr ddewis aros gyda’r hen Gynllun Taliad Sylfaenol am gyfnod, ond bydd hwnnw’n cael ei ddileu’n raddol erbyn 2029.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod lefel y diddordeb yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun yn “galonogol”.
“Wrth i ni edrych i barhau i esblygu'r CFC, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau a'r rhwystrau y mae ein ffermwyr yn eu hwynebu wrth ystyried y cynllun,” meddai llefarydd.
“Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon, byddwn yn cadarnhau cylch cyllido aml-flwyddyn ar gyfer y CFC. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd ac yn cynorthwyo ffermwyr gyda'u cynllunio busnes a'u hyder yn eu pontio rhwng y BPS a'r CFC.”
'Angen datblygu'r cynllun ymhellach'
Dywedodd Abi Reader, Llywydd NFU Cymru, fod angen datblygu’r cynllun ymhellach o hyd.
“Gan y bydd y Cynllun Taliad Sylfaenol wedi’i ddileu’n llwyr erbyn 2029 ac y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn brif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru, mae’n hanfodol bod y cynllun yn gweithio i bob fferm, ym mhob sector, ym mhob rhan o Gymru,” meddai.
Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i’r cynllun o’i gymharu â’i fersiwn wreiddiol.
“Serch hynny, mae’n amlwg nad yw’n berffaith, ac mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu hynny,” meddai.
“Mae’r data diweddaraf yn dangos yn glir fod gwaith pellach i’w wneud er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gwbl hygyrch, yn ymarferol ac yn addas i bob ffermwr cymwys.”
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, fod cyfanswm o 16,310 o Ffurflenni Cais Sengl wedi dod i law ar gyfer 2026.
Bydd Taliadau Gwledig Cymru bellach yn gwirio’r hawliadau cyn i daliadau gael eu gwneud yn ddiweddarach eleni.
(Llun: Llywodraeth Cymru)