Cyngor Môn i ymgynghori ar godi ffi ychwanegol ar ymwelwyr
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ystyried a ddylid cyflwyno ffi ar ymwelwyr am aros ar yr ynys dros nos.
Mae deddfwriaeth ddiweddar yng Nghymru wedi rhoi dewis i gynghorau gyflwyno'r ffi - neu ardoll - ar gyfer llety ymwelwyr, ond nid yw’n orfodol.
Bydd manylion am yr ymgynghoriad, a sut all pobl gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi’n fuan meddai'r cyngor.
Ddydd Mawrth mewn cyfarfod llawn o gyngor yr ynys, cytunodd yr aelodau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.
Bydd yr ymgynghoriad "yn ceisio cael gwell ddealltwriaeth o farn leol, effeithiau posibl ac unrhyw bryderon cyn mynd ati i ystyried unrhyw benderfyniad posib" meddai'r cyngor.
Mae’r ardoll ymwelwyr, sydd wedi ei chyflwyno mewn ardaloedd eraill, yn cynnwys ffi fechan ychwanegol am aros dros nos mewn llety i ymwelwyr.
Byddai'n rhaid defnyddio unrhyw arian o'r ffi i gefnogi twristiaeth, rheoli cyrchfan ac isadeiledd lleol.
Mae adroddiad y cyngor yn amlygu nifer o fanteision posibl, yn cynnwys:
- darparu cyllid ychwanegol yn helpu i gynnal cyfleusterau ymwelwyr fel llwybrau troed, toiledau a meysydd parcio
- cefnogi twristiaeth gynaliadwy a rhoi llai o bwysau ar gymunedau a’r amgylchedd
- cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwella asedau diwylliannol yr ynys ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Ond, mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod yr heriau a’r pryderon posibl, yn cynnwys:
- yr effaith bosibl ar fusnesau twristiaeth, yn enwedig darparwyr llety llai
- ansicrwydd ynghylch sut fydd ymwelwyr yn ymateb i ffi ychwanegol
yr angen i sicrhau bod unrhyw refeniw yn dryloyw, yn ychwanegol ac yn darparu buddion clir ar gyfer twristiaeth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir a deilydd portffolio Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Gary Pritchard: “Mae twristiaeth yn rhan hollbwysig o’n heconomi a’n hunaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod ei fod yn dod a heriau sydd yn amlwg yn ein cymunedau ac yn ystod tymhorau.
“Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto, a bwriad ymgynghori yw sicrhau bod unrhyw ddull arfaethedig, os bydd un o gwbl, yn seiliedig ar dystiolaeth leol, blaenoriaethau lleol a thrafodaethau gwybodus.”
Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Ynys Môn, Christian Branch: “O safbwynt datblygu economaidd, mae’n bwysig ein bod yn deall yn iawn y cyfleoedd posibl a’r risgiau ar gyfer yr ynys cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
“Mae’r dystiolaeth yn ymwneud â’r ardoll ymwelwyr yn dangos y gall yr effeithiau amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar gyd-destun lleol, ymddygiad ymwelwyr a sut y defnyddir refeniw.
"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i brofi’r dystiolaeth honno yn erbyn economi, tirlun busnes a phatrymau twristiaeth tymhorol penodol Ynys Môn, a sicrhau bod amrywiaeth o leisiau’n cael eu hadlewyrchu yn y dadansoddiad.”