Yr ansicrwydd dros ddyfodol Syr Keir Starmer yn parhau cyn Araith y Brenin
Mae'r ansicrwydd dros ddyfodol Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer yn parhau ddydd Mercher wedi i nifer o weinidogion ymddiswyddo o'i gabinet.
Er gwaetha'r trafferthion mawr oddi mewn i rengoedd y Blaid Lafur yn San Steffan, bydd Araith y Brenin yn cael ei thraddodi yn hwyr fore Mercher, wrth i Lywodraeth Keir Starmer gyhoeddi eu cynlluniau, gyda'r nod o "adfer gobaith."
Y gred yw y bydd polisïau ar fewnfudo ac ynni gwyrdd yn flaenllaw yn yr araith. Bydd yr araith yn cael ei darllen gan y Brenin Charles yn Nhŷ'r Arglwyddi, o flaen Aelodau Seneddol ac Arglwyddi.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn brwydro am ei ddyfodol gwleidyddol yn dilyn canlyniadau trychinebus Llafur yn yr etholiadau ddydd Iau diwethaf.
Fe wnaeth nifer o weinidogion ymddiswyddo o'i gabinet ddydd Mawrth, gan gynnwys Jess Phillips fel Gweinidog Diogelu Llywodraeth y DU.
Dywedodd ei bod yn credu bod Syr Keir Starmer yn “ddyn da” ond nad yw hynny’n “ddigon”.
'Galw am newid'
Yn fuan wedi iddi ymddiswyddo, fe gyhoeddodd Alex Davies-Jones, yr aelod seneddol dros Bontypridd, ei bod hithau'n ymddiswyddo o'i swydd yn y Cabinet fel y Gweinidog dros Ddioddefwyr hefyd.
Yr Ysgrifennydd Cymunedau Miatta Fahnbulleh oedd y gyntaf i ymddiswyddo. Dywedodd mewn llythyr at y prif weinidog fod y wlad yn galw am newid "ond nad yw'r cyhoedd yn credu y gallwch chi arwain y newid hwn – ac nid wyf fi chwaith".
Yn ddiweddarach brynhawn Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Zubir Ahmed ei fod yntau hefyd wedi gadael y Cabinet, a hynny o achos diffyg "arweinyddiaeth oedd yn seiliedig ar werthoedd."
Y gred yw bod mwy na 80 o ASau Llafur wedi annog Keir Starmer i gamu o’r neilltu, neu i baratoi amserlen i adael.
Yn y cyfamser, mae mwy na 100 o ASau wedi arwyddo datganiad yn cefnogi'r Prif Weinidog, gan ddweud nad nawr yw'r amser am "frwydr arweinyddiaeth".
Mae Syr Keir Starmer wedi addo brwydro ymlaen fel Prif Weinidog y DU, gyda chefnogaeth gan rai aelodau blaenllaw o’i Gabinet.
'Tegwch i Gymru'
Mae Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth eisoes wedi nodi ei fod yn awyddus i sgwrsio yn fuan â Syr Keir Starmer.
Yn sgil trafferthion Prif Weinidog y DU, a'r ansicrwydd am ei ddyfodol, mae'n aneglur pryd yn union y bydd y sgwrs honno'n cael ei chynnal.
Cyn Araith y Brenin fore Fercher, cyhoeddodd Plaid Cymru y bydd yn cyflwyno gwelliant i'r araith honno. Mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau "tegwch go iawn i Gymru, gan gynnwys pwerau cryfach a chyllid teg."
Wrth siarad cyn yr araith, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts:
"Mae Plaid Cymru yn barod i lywodraethu gydag arweinyddiaeth newydd oherwydd dyna’r mandad a roddwyd inni gan y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
"Cyn Araith y Brenin, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r grymoedd i Gymru ffynnu, gan gynnwys pwerau dros isadeiledd rheilffyrdd, ein hadnoddau naturiol a chyllid teg."