Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar Ynys Môn
Mae dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Llanfachraeth, Ynys Môn nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 7:00 y nos i ffordd A5025 yn Llanfachraeth.
Roedd gwrthdrawiad wedi bod rhwng car llwyd Jaguar I-Pace a beic modur gwyn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw hefyd ond fe fuodd gyrrwr y beic modur farw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn cefnogi teulu y dyn sydd wedi marw.
Cafodd dyn ei arestio yn y safle ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Sarjant Alun Jones o Dîm Trosedd Ffyrdd y llu sydd yn arwain yr ymchwiliad: "Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i’r teulu yn ystod yr amser anodd hwn.
“Mae’r gwrthdrawiad hwn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol, ac rydym yn ceisio sefydlu'r hyn ddigwyddodd.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng preifat, camera dangosfwrdd, neu gloch drws a allai fod wedi gweld y naill gerbyd neu’r llall yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu.”
Mae ffordd yr A5025 yn parhau ar gau er mwyn i'r heddlu barhau gyda'i hymchwiliad.
Llun: Google Maps