Disgwyl i Rhun ap Iorwerth gyhoeddi ei gabinet
Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth gyhoeddi pwy fydd yn ei gabinet ddydd Mercher.
Daw hyn ar ôl iddo gael ei gadarnhau yn swyddogol yn Brif Weinidog newydd Cymru.
Cafodd ei ethol yn y Senedd brynhawn Mawrth, wrth i aelodau Plaid Cymru a'r Blaid Werdd ei enwebu.
Gyda niferoedd yr aelodau yn y Senedd wedi codi o 60 i 96, dyw hi ddim yn glir sawl aelod fydd yng nghabinet Rhun ap Iorwerth.
Gallai ddewis hyd at 17 gweinidog.
Yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd roedd Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf pe bai nhw'n ennill yr etholiad.
Gyda hynny bellach yn realiti bydd disgwyl i'r blaid roi y cynlluniau hynny ar waith.
Cynllun 100 diwrnod
Yn y ddogfen hyd at 60 tudalen roedd cynllun i leihau rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd a chomisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG.
Nid oedd unrhyw dargedau yn rhan o'r ddogfen ond dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n creu 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.
Hefyd mae'r blaid eisiau mwy o rymoedd i Gymru gan gynnwys pwerau dros reilffyrdd, y system gyfiawnder, Ystâd Y Goron, cyfiawnder am gynllun rheilffordd cyflym HS2, a newid y fformiwla Barnett, sef y ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu.
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai'n barod i frwydro dros sicrhau'r pwerau hyn i Gymru gyda Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer. Er hynny mae wedi cydnabod na fydd hynny'n dasg hawdd.
Gwella gofal plant yw un o brif addewidion y blaid, gyda chynllun i ddarparu 20 awr yr wythnos am ddim i rieni gyda phlant rhwng naw mis a phedair oed.
Mae'r blaid wedi derbyn beirniadaeth bod y cynllun yn rhy gostus, ond mae Plaid Cymru yn mynnu eu bod nhw'n gallu fforddio ariannu'r cynllun hwn.
Yn y sector addysg dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "symud ymlaen â datblygiad cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd" ac yn "comisiynu arolwg cyflwr adeiladau ysgolion cenedlaethol".
Addawodd y blaid hefyd i ddod â'r sector cyhoeddus ynghyd fel "un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig" a'u bod nhw'n "llunio llwybr ymarferol i sero net erbyn 2040".