Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro i gyn-ddisgyblion Canolfan Brynffynnon a gafodd eu cam-drin
Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro i gyn-ddisgyblion Canolfan Brynffynnon a gafodd eu cam-drin
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro i gyn-ddisgyblion Canolfan Brynffynnon yn y Felinheli, gan gydnabod bod disgyblion wedi cael eu cam-drin yno.
Mewn ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn dilyn cau’r Ganolfan, oedd yn uned addysg i blant gydag anghenion ymddygiad ac emosiynol, mae rhaglen Y Byd ar Bedwar yn datgelu bod yswirwyr Cyngor Gwynedd wedi dechrau talu iawndal i gyn-ddisgyblion.
Wrth ymateb i’r rhaglen, dywedodd Cyngor Gwynedd ei bod wedi dod i’r amlwg bod disgyblion wedi cael eu cam-drin yno, a’u bod yn ‘cydymdeimlo gyda’r dioddefwyr ac yn ymddiheuro wrthynt.’
Mae pump cyn-ddisgybl wedi derbyn taliad gan y cyngor ers Ebrill 2026 ar ôl dwyn achosion cyfreithiol ar sail eu profiadau yn y ganolfan.
Mae 14 cyn-ddisgybl arall yn y broses o hawlio iawndal ar hyn o bryd.
Mae’r taliadau hyn yn cael eu gwneud heb unrhyw gyfaddefiad o atebolrwydd.
Cyhuddiadau
Cafodd y ganolfan ei chau yn sydyn yn 2014. Flwyddyn wedyn, cafodd Sion Bedwyr Evans, pennaeth dros-dro yr uned, a Garry Vaughan Roberts, aelod o staff yno, eu cyhuddo o 49 trosedd o greulondeb tuag at blant rhwng mis Medi 2006 a mis Mawrth 2014.
Roedd y ddau yn gwadu’r cyhuddiadau, gydag achos llys wedi ei drefnu ar gyfer 2016.
Ond cafodd yr achos ei ollwng wedi i Wasanaeth Erlyn Y Goron dderbyn tystiolaeth newydd gan yr heddlu, gan ddweud nad oedd siawns realistig o gael euogfarn.
Fe ddaeth y cyhuddiadau o ganlyniad i gwynion gan 24 o ddisgyblion wnaeth siarad â Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn cau’r Ganolfan.
Un o’r rheiny oedd Dillon Roberts, dyn ifanc awtistig oedd yn mynychu’r ganolfan rhwng 2010-2014 pan oedd yn blentyn.
Fis Ebrill 2026, derbyniodd iawndal o £12,000 gan Gyngor Gwynedd.
“Roedd na un amser pan ges i fy draggio mewn i swyddfa’r prifathro. Oedd un o’r athrawon yn gafael fi, ac oedd y prifathro efo strimmer. Roedd o’n gafael o wrth ymyl fy mhen i a fy ngwddf. Roedd y strimmer yn rhedeg hefyd. O’n i’n meddwl ‘mod i’n mynd i farw," meddai.
Yn ôl Dillon, yn ystod ei gyfweliad gyda Heddlu Gogledd Cymru, fe soniodd am gamdriniaeth honedig arall:
“Pan o’n i yn y gegin, oedd yr athrawon yn rhoi halen yn dy ddiod di. Oedden nhw’n fwlis.”
Fel rhan o achos Dillon yn erbyn Cyngor Gwynedd, dywedodd:
“Roeddwn i’n cael fy ngham-drin gan Mr. Roberts oherwydd fy maint. Gan fy mod i’n rhy fawr, roedd gen i ‘fronnau’, a byddai Mr. Roberts yn eu sgwpio a’u gwasgu. Roedd hyn yn arfer fy mrifo ac roedd yn codi cywilydd arna i.”
Mae Dillon hefyd yn honni bod staff y ganolfan yn llwgrwobrwyo ac yn bygwth plant:
“Dwi’n cofio ar ddydd Gwener, oeddan ni’n mynd i swyddfa (un o’r athrawon) i gael fferins a pres, ac oedd ganddo fo fag yn barod - llwyth o ddarnau punt.
"Oeddan nhw jyst yn d’eud, ‘Peidiwch a d’eud wrth mam neu dad chi, neu, os ti’n d’eud wrthyn nhw, nawn ni ladd nhw.’ O’n i rili ofn mynd yna bob diwrnod.”
Yn 2017, flwyddyn ar ôl i’r achos gael ei ollwng, fe wnaeth rhieni Dillon dderbyn llythyr gan Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd.
Roedd y llythyr yn cydnabod bod rhai o’r cyhuddiadau gafodd eu gwneud gan rai o’r plant wedi cael eu cadarnhau, gan argymell bod y Cyngor, fel y corff oedd yn cyflogi staff Canolfan Brynffynnon, yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i’r mater.
Mae Katherine Yates yn gyfreithwraig sy’n adnabyddus am gynrychioli rhai o ddioddefwyr y pedoffil Neil Foden yn eu hachosion yn erbyn Cyngor Gwynedd.
Yn Awst 2024, fe wnaeth taid un o gyn-ddisgyblion Brynffynnon gysylltu â hi i ofyn am gymorth. Bellach, mae dros 20 o rieni a chyn-ddisgyblion wedi dod at ei gilydd i ddechrau dwyn achosion cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd.
Dywedodd Katherine Yates: “Roeddwn i wedi fy syfrdanu pa mor sydyn ddaeth pobl ymlaen.
"A beth oedd yn rhyfeddol oedd natur yr honiadau, a pha mor debyg oedden nhw gan bobl wahanol - doedd rhai o’r plant yma ddim yn adnabod ei gilydd, doedden nhw heb hyd yn oed fod yn yr ysgol ar yr un pryd - ac eto mae’r honiadau i gyd yn debyg.”
Camdriniaeth honedig
Mae honiadau rhai o gyn-ddisgyblion Canolfan Brynffynnon a’u rhieni ynghylch camdriniaeth gorfforol ac emosiynol.
“Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn cwyno o gael eu gosod mewn teiars fyny at eu gyddfau a chael peli wedi eu cicio at eu pennau. Mae ‘na lawer o enghreifftiau ble mae plant wedi cael eu gorfodi i ymladd â’i gilydd jyst er mwyn difyrrwch y staff. Mae na enghreifftiau o blant yn cael eu gorfodi i fwyta.”
Mae Y Byd ar Bedwar wedi siarad gyda sawl rhiant sydd wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd yn sgil profiad eu plant yng Nghanolfan Brynffynnon, gan ddatgelu bod dau gyn-ddisgybl wedi derbyn iawndal yn 2019.
Mae rhieni un o’r cyn-ddisgyblion sydd wedi derbyn iawndal yn dweud eu bod wedi codi pryderon gyda Chyngor Gwynedd yn 2010 - bedair blynedd cyn i Frynffynnon gau.
“Roedd y rhieni’n cwyno, llawer iawn ohonyn nhw. Ond doedd dim yn digwydd.”
Talu staff oedd wedi’u gwahardd am naw mlynedd
Drwy ei hymchwil i’r achos, mae Katherine Yates wedi darganfod bod Cyngor Gwynedd wedi parhau i dalu cyflogau dau aelod o staff gafodd eu cyhuddo am naw mlynedd tra’u bod wedi eu gwahardd o’u swyddi.
“Faint mae hynny wedi ei gostio i’r trethdalwr? A pham ddylen nhw dalu hynny tra bod Cyngor Gwynedd yn methu dilyn eu rheolau eu hunain?”
Galw am ymchwiliad cyhoeddus
Mae’r gyfreithwraig sy’n cynrychioli’r cyn-ddisgyblion yn pryderu am fesurau diogelwch plant Cyngor Gwynedd:
“Dw i ddim yn credu bod plant yn ddiogel dan y cyngor. Dwi wir yn meddwl bod angen ymchwiliad cyhoeddus i’r ffordd y mae’n nhw’n rhedeg eu hysgolion a pham nad ydyn nhw’n dilyn y rheolau mae’n rhaid i bob awdurdod lleol arall eu dilyn.
Pan dwi’n edrych ar y ffordd mae Cyngor Gwynedd wedi ymddwyn gydag achos Foden, a’r achos yma, mae’n fy synnu i.”
Fe ofynnodd rhaglen Y Byd ar Bedwar wrth Gyngor Gwynedd am gyfweliad i drafod achos Canolfan Brynffynnon, ond mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan: “Ni ddylai unrhyw blentyn oddef camdriniaeth o unrhyw fath, ac er fod yr achosion hyn yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd bellach, rydym ni heddiw yn cydymdeimlo gyda’r dioddefwyr ac yn ymddiheuro wrthynt.
"Yn achos Canolfan Brynffynnon, a gaewyd yn 2014, daeth i’r amlwg fod disgyblion wedi cael eu cam-drin. Cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru a arweiniodd at achos troseddol ynghyd â gweithredu trefniadau amddiffyn plant.”
Adolygiad
Dywedodd y cyngor bod adolygiad newydd o’r holl gamau a gymerwyd bryd hynny eisoes wedi ei gomisiynu ers Rhagfyr y llynedd er mwyn sicrhau fod unrhyw wersi a ddysgwyd ar y pryd yn parhau i gael eu gweithredu heddiw.
Yn ôl y cyngor, yswirwyr allanol sy’n gyfrifol am geisiadau am iawndal ac mae’r materion yma’n gyfrinachol fel mater o drefn.
“Tra na allwn wneud sylw ar faterion cyflogaeth sy’n ymwneud ag aelodau o staff na chyn-aelodau o staff, rydym yn cydnabod fod yr achos hwn wedi cymryd cyfnod annerbyniol o hir ac yn ymddiheuro am hynny.
"Er fod amgylchiadau cymhleth ac unigryw yr achosion wedi cyfrannu at yr oedi, dylai’r materion hyn fod wedi cael eu datrys yn llawer iawn cynt.
“Erbyn heddiw, mae pob agwedd o drefniadau diogelu plant yng Ngwynedd wedi eu hadolygu’n llwyr a’u cryfhau yn unol ag argymhellion adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder a gyhoeddwyd yn 2025. Bydd hyn yn parhau yn brif flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd.”
Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar gysylltu â Sion Bedwyr Evans a Garry Roberts am eu hymateb hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd Bedwyr Evans: ‘Nid yw’r honiadau fel y maent wedi eu cyflwyno yn cyfleu’r ffeithiau yn gywir.’
Ychwanegodd bod y dystiolaeth wnaeth beri i’r achos gael ei ollwng yn siarad dros ei hunan, a bod y dystiolaeth honno’n cynnwys deunydd sy’n ymwneud â gwirionedd yr honiadau yn ogystal ag integriti’r cyhuddwyr.
Yn ôl Garry Roberts, cafodd tystiolaeth o gamymddwyn ei darganfod ynghylch gêm bêl anaddas oedd yn cael ei chwarae yng Nghanolfan Brynffynnon, lle’r oedd pêl yn cael ei chicio at ben-ôl unigolion.
Ychwanegodd: 'Daeth y pwyllgor apêl i’r casgliad fy mod yn derbyn rhybudd terfynol ysgrifenedig wnaeth bara am 18 mis.'
O ran honiad Dillon o gael ei fygwth gyda strimiwr, dywedodd: “Yr honiad a wnaed yn ystod yr ymchwiliad troseddol, ac y ces i fy nghyhuddo ohono, oedd fy mod wedi dal plentyn tra bod aelod arall o staff yn torri’i wallt gyda’r strimiwr.”
Ychwanegodd nad oedd honiadau eraill Dillon yn rhan o’r ymchwiliad troseddol nac ymchwiliad annibynnol Cyngor Gwynedd, a’i fod erioed wedi gorfod ymateb i’r cyhuddiadau hyn.
Mae Sion Bedwyr Evans a Garry Roberts yn dweud eu bod nhw wedi cwyno i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu am y ffordd gafodd ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru ei gynnal, ond er i Y Byd ar Bedwar wneud ymholiadau am hyn, chafwyd dim cadarnhad o’r wybodaeth yma.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Taliadau tawel Brynffynnon, dydd Llun Mehefin 15 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer a YouTube S4C.