Cyngor Conwy: Diswyddo aelod o staff ac un arall yn ymddiswyddo dros ddiogelu data
Cafodd un aelod o staff ei ddiswyddo, gydag un arall yn ymddiswyddo, a rhybudd ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno yn dilyn torri rheolau diogelu data yn adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Conwy.
Mewn cyfarfod ym mhencadlys yr awdurdod yng Nghoed Pella yr wythnos hon, cafodd adroddiad am yr hyn ddigwyddodd ei drafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
O dan adran yn yr adroddiad oedd yn rhestru 'ymchwiliadau arbennig', roedd achos o dorri rheolau diogelu data wedi arwain at wrandawiad disgyblu ym mis Gorffennaf 2025, ac yna gwrandawiad apêl ym mis Medi 2025.
Canlyniad y gwrandawiadau hynny oedd "diswyddo" meddai'r adroddiad.
Fe wynebodd ail aelod o staff yn y gwasanaethau cymdeithasol wrandawiad disgyblu ac fe gafodd rybudd ysgrifenedig ffurfiol yn dilyn torri rheolau diogelu data.
Fe wnaeth swyddog arall o'r cyngor ymddiswyddo ar ôl torri rheolau diogelu data yn yr un adran.
Nid yw'r adroddiad yn dweud os oedd y camau disgyblu yn ymwneud â'r un achos neu'n achosion ar wahân.
Nid yw manylion y diswyddo wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, gan fod yr achos wedi'i ddisgrifio fel un sydd "yn gyfreithiol freintiedig".
Damwain angheuol yn Llandudno
Mae'r un adroddiad yn cyfeirio at "ymchwiliad i ddigwyddiadau yn ymwneud â damwain traffig ffordd" yn ymwneud ag adran amgylchedd, ffyrdd a chyfleusterau'r cyngor, gyda'r canlyniad wedi'i ddisgrifio fel un parhaus.
Roedd yr achos yma yn cyfeirio at farwolaeth yn Llandudno yn ymwneud â lori ludw'r cyngor.
Clywodd cynghorwyr y byddai "adroddiad gwersi a ddysgwyd" yn ogystal ag argymhellion yn cael eu rhannu â phenaethiaid gwasanaeth perthnasol ar ôl cwblhau'r gwaith, ond bod y wybodaeth yma hefyd yn "gyfreithiol gyfrinachol".
Wrth siarad yn y cyfarfod, cododd y cynghorydd o Abergele, Paul Luckock, gwestiynau am yr ymchwiliadau, a oedd wedi cymryd 109 diwrnod i'w cwblhau.
Awgrymodd y Cynghorydd Luckock y dylid rhoi gwybod i'r cynghorwyr am y materion.
Ymchwiliad yr heddlu
Dywedodd Pennaeth Archwilio a Chaffael y cyngor, Sioned Evans Parry: “Mae’r ddau ymchwiliad rydych chi’n cyfeirio atynt yn dal i gael eu hymchwilio gan yr heddlu ar hyn o bryd, felly maen nhw’n freintiedig yn gyfreithiol ar hyn o bryd.
“Mae cynlluniau gweithredu wedi’u llunio ar gyfer y ddau ymchwiliad.
"Rydw i newydd ymgynghori â’n cynghorwyr cyfreithiol i gael cymeradwyaeth i ganiatáu i’n tîm arweinyddiaeth strategol gael mynediad at un ohonyn nhw fel y gallant edrych ar y llywodraethu ac unrhyw wersi a ddysgwyd wrth symud ymlaen i’r awdurdod.”
Dywedodd y Cynghorydd Luckock y byddai’r cyhoedd yn gofyn cwestiynau ynghylch pa ddiogelwch data yn union a dorrwyd.
“Yr hyn fyddai’n bryder i drigolion, o ran diogelu data a seibrddiogelwch, yn amlwg yw eu data nhw, ac o ran y digwyddiad ofnadwy yn Llandudno, bydd pobl hefyd eisiau sicrwydd nad yw’r risgiau o amgylch y math yna o ddigwyddiad yn debygol o fynd ymlaen,” meddai.
Dywedodd Ms Evans Parry: “Fel y dywedais, mae’n destun ymchwiliadau heddlu parhaus. Gallaf roi sicrwydd i chi fod y wybodaeth a gafwyd mynediad ati yn ymwneud ag unigolyn ac nid â’r boblogaeth ehangach.
“Mae’r farwolaeth yn dal i fod yn destun ymchwiliadau parhaus gan yr heddlu a'r adran gorfodaeth iechyd a diogelwch, ond rwy’n siŵr y bydd gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu gyda’r pwyllgor hwn maes o law.”
Cafodd y pwyllgor gais i ystyried yr adroddiad a gwneud sylwadau arno.
