Cynghorydd Ceidwadol yn ymddiheuro am neges am Aberfan
Mae cynghorydd Ceidwadol wedi ymddiheuro ar ôl cyhoeddi llun o drychineb Aberfan ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ymateb i neges.
Roedd Tom Jones sy’n gynghorydd o Sir Gogledd Swydd Efrog wedi cyhoeddi llun o’r glo yn gorchuddio'r pentref ac Ysgol Gynradd Pantglas ar gyfrwng cymdeithasol X.
Fe wnaeth hynny wrth ymateb i ddefnyddiwr arall a oedd wedi dweud nad oedd “y Saeson erioed wedi cynhyrchu dyn mawr mewn hanes”.
Fe ymatebodd gyda llun o’r trychineb a’r geiriau “an avalanche of coal”.
Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant yn y tirlithriad glo ar 21 Hydref 1966.
Cafodd y cynghorydd, sydd hefyd yn ddirprwy olygydd cylchgrawn The Critic, ei feirniadu yn hallt am y neges cyn ei dileu.
“Ymddiheuriadau di-ben-draw am dramgwyddo unrhyw un gyda’r llun y defnyddiais yn gynharach,” meddai mewn neges ar X.
“Roeddwn i wedi gwglo ‘meme glo’ [coal meme] a dyna’r un a ddaeth i fyny.”