Dyn o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn mewn ysgol breifat

Police / Heddlu Lloegr

Mae dyn o Gaerdydd a oedd yn arfer bod yn athro mewn ysgol breifat yn Nwyrain Sussex wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn tri bachgen yn y 90au.  

Mae Jeffrey Nicholls, o Ffordd Waterloo, yn ardal Pen-y-lan o'r brifddinas yn wynebu honiadau iddo ymosod ar y bechgyn yn Ysgol St Aubyn yn Rottingdean, sydd bellach wedi cau.

Mae honiadau i hynny ddigwydd rhwng 1990 ac 1995.

Yn ôl Heddlu Sussex, mae'r dyn 73 oed wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 16 oed, dau achos o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed, ac un achos o greu delwedd anweddus o blentyn. 

Mae Jeffrey Nicholls ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Brighton ar 21 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.