Tafarn gymunedol yng Ngwynedd yn chwilio am denantiaid newydd lai na blwyddyn ar ôl ailagor
Mae tafarn gymunedol yn Eryri yn chwilio am denantiaid newydd lai na blwyddyn ar ôl ailagor.
Roedd y gymuned leol wedi codi bron i £200,000 i brynu prydles y dafarn.
Cafodd Menter Y Ring Cyf ei sefydlu gan bobl leol yn ardal Llanfrothen ger Porthmadog, er mwyn cymryd rheolaeth o dafarn Y Brondanw Arms yn y pentref yng Ngwynedd, tafarn sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel Y Ring.
Ym mis Ebrill 2025, fe gyhoeddodd y fenter eu bod wedi llwyddo i godi digon o arian i dalu am brydles y dafarn, ar ôl gwerthu £197,100 o gyfranddaliadau. Ailagorodd Y Ring fel tafarn gymunedol yn Awst 2025.
Ond mae’r pwyllgor bellach wedi penderfynu dod â’r denantiaeth bresennol i ben.
Bydd yn dod i ben ar 10 Awst 2026, yn dilyn cyfnod rhybudd o dri mis.
Dywedodd cadeirydd Menter Y Ring, Osian Gruffydd, wrth Newyddion S4C mai “newid dwylo” oedd hyn, “yn hytrach nag unrhyw beth mwy na hynny”.
“Mae’r dafarn dal yn nwylo’r fenter a’r gymuned,” meddai.
“Ar ôl ystyried y peth yn hir ac yn fanwl, mae Pwyllgor Menter Y Ring yn gwneud y penderfyniad anodd i ddod â’r denantiaeth bresennol i ben er mwyn sicrhau sefydlogrwydd tymor hir,” meddai.
“Ond gan fod hon yn broses sy’n ymwneud â materion preifat, cytundebol, fedrwn ni ddim gwneud sylw pellach.
“Rydyn ni’n gobeithio am drosglwyddiad esmwyth, ac eisiau diolch i’r tenantiaid am fod yn rhan o siwrne’r Ring, a dymuno’n dda iddyn nhw.”
Dywedodd Mr Gruffydd y byddai’r fenter yn ceisio sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib ar wasanaethau’r dafarn yn ystod y cyfnod nesaf.
Mewn diweddariad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Menter Y Ring ei bod yn ymddangos bod y dafarn ar gau ar hyn o bryd yn dilyn y cyhoeddiad.
Dywedodd y pwyllgor eu bod yn gobeithio y bydd y dafarn yn gallu parhau i weithredu yn ystod y cyfnod rhybudd.
Wrth gael ei holi a fyddai’r dafarn yn dod dan reolaeth y pwyllgor yn hytrach na chael tenantiaeth newydd, dywedodd Mr Gruffydd fod Menter Y Ring yn ystyried gwahanol fodelau.
“Mae’r opsiynau yma i gyd yn bethau fyddwn ni’n eu hystyried yn ystod y cyfnod nesa,” meddai.
Pan holwyd a oedd y dafarn wedi bod yn llwyddiant yn y gymuned hyd yma, “do” oedd ateb pendant Mr Gruffydd.
Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch pam na chafodd y gymuned ei hymgynghori cyn y penderfyniad, dywedodd Menter Y Ring Cyf fod y cytundeb tenantiaeth yn “gontract cyfreithiol” rhwng y fenter a’r tenant.
Ychwanegodd y pwyllgor fod yn rhaid trin penderfyniadau cytundebol “yn sensitif, yn gyfrinachol, ac yn unol â gofynion cyfreithiol”.
Cyn i’r gymuned brynu’r brydles, roedd aelodau o’r fenter wedi dweud wrth Newyddion S4C mai prynu’r Ring fel cymuned oedd “yr unig ffordd o sicrhau dyfodol y dafarn”, a’i chadw ar agor mewn “cymuned wledig, fechan”.
Roedd y fenter hefyd wedi dweud mai’r gobaith oedd datblygu’r dafarn fel lle i gynnal digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys gigiau, nosweithiau barddoni a sesiynau crefft.