Keir Starmer yn benderfynol o frwydro ymlaen gyda chefnogaeth rhai aelodau o’i Gabinet
Mae Syr Keir Starmer wedi addo brwydro ymlaen fel Prif Weinidog y DU, gyda chefnogaeth rhai aelodau blaenllaw o’i Gabinet.
Daeth pedwar o weinidogion y Cabinet allan o’u cyfarfod fore Mawrth gan gefnogi'r Prif Weinidog ymysg rhagor o alwadau iddo ymddiswyddo.
Roedd yr Ysgrifennydd Technoleg, Liz Kendall, yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Kyle, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden â’r Ysgrifennydd Tai, Steve Reed wedi datgan eu cefnogaeth i'r arweinydd Llafur.
Dywedodd Ms Kendall: “Bydd y Llywodraeth hon yn gwneud yr hyn y cafodd ei hethol i’w wneud, sef gwasanaethu pobl Prydain.
“Mae gan y Prif Weinidog fy nghefnogaeth lawn yn hyn.”
Ond gadawodd gweinidogion eraill y Cabinet y cyfarfod heb siarad â gohebwyr.
Anwybyddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting, un o’r ffefrynnau i gymryd yr awenau pe bai Keir Starmer yn ymddiswyddo, gwestiynau gan newyddiadurwyr wrth iddo adael Rhif 10 Downing Street.
Yn ôl Downing Street, dywedodd y Prif Weinidog wrth ei Gabinet: “Fel y dywedais ddoe, rwy’n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r etholiadau hyn.
“Rydw i hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am gyflawni’r newid y gwnaethom ei addo.
“Mae’r 48 awr ddiwethaf wedi bod yn ansefydlog i’r llywodraeth. Mae hynny’n dod â chost economaidd go iawn i’n gwlad ac i deuluoedd.
“Mae gan y Blaid Lafur broses ar gyfer herio arweinydd. Nid yw’r broses honno wedi cychwyn.
“Mae’r wlad yn disgwyl i ni fwrw ymlaen â llywodraethu. Dyna rwy’n ei wneud, a dyna mae’n rhaid i ni ei wneud fel Cabinet.”
Ddydd Llun roedd mwy na 70 o ASau Llafur wedi annog Keir Starmer i gamu o’r neilltu, tra bod rhai gweinidogion hefyd yn pwyso arno i ystyried ei ddyfodol.
Roedd wedi bod dan bwysau ers yr etholiadau ddydd Iau pan ddaeth Llafur yn drydydd yng Nghymru a cholli grym am y tro cyntaf erioed yn hanes datganoli, yn ogystal â chanlyniadau gwael mewn etholiadau lleol ar draws Lloegr, ac yn Yr Alban.
Collodd Eluned Morgan ei sedd ar ôl iddi arwain Llafur Cymru fel Prif Weinidog am bron i dair mlynedd.
Yn Lloegr, collodd Llafur 1,500 o gynghorwyr yn yr etholiadau lleol yno.
Roedd canlyniad siomedig i’r blaid yn yr Alban hefyd, lle y cadwodd yr SNP eu gafael ar Holyrood yn gyfforddus i ymestyn bron i 20 mlynedd mewn grym.