Cynghorau Gwynedd a Chonwy i drafod cau ysgolion gwledig yn y siroedd
Cynghorau Gwynedd a Chonwy i drafod cau ysgolion gwledig yn y siroedd
Fe fydd Cynghorau Gwynedd a Chonwy yn trafod cau dwy ysgol wledig yn y ddwy sir ddydd Mawrth.
Mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Mai, fe bleidleisiodd aelodau’n unfrydol o blaid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gynigion i gau Ysgol Nebo, ger Llanllyfni, ac Ysgol Baladeulyn yn Nantlle.
Yn achos y ddwy ysgol, roedd 10 aelod o’r Cabinet o blaid, neb yn erbyn a neb yn ymatal.
O dan y cynigion, byddai Ysgol Nebo yn cau ar 31 Rhagfyr 2026, gyda disgyblion yn cael lle yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Byddai Ysgol Baladeulyn yn cau ar yr un dyddiad, gyda disgyblion yn cael lle yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Yn ôl adroddiadau a oedd wedi'u cyflwyno i’r Cabinet, mae’r ddwy ysgol mewn sefyllfa fregus oherwydd niferoedd isel o ddisgyblion, canran uchel o lefydd yn wag, costau uchel fesul disgybl, a dibyniaeth ar gyllid ychwanegol.
Roedd gan Ysgol Nebo 11 o ddisgyblion Derbyn i Flwyddyn 6 ar y gofrestr yn Ionawr 2026, gyda chapasiti o 51. Mae hynny’n gadael 40 o lefydd yn wag, sef 78% o gapasiti’r ysgol.
Yn achos Ysgol Baladeulyn, roedd chwe disgybl Derbyn i Flwyddyn 6 ar y gofrestr, gyda chapasiti o 55. Mae hyn yn golygu bod 49 lle gwag yn yr ysgol sef 89% o'i chapasiti.
Conwy
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws y Coed, ac mae disgwyl i benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y cabinet ym mhencadlys yr awdurdod yng Nghoed Pella ddydd Mawrth.
Yno fe fydd y cyngor yn penderfynu a ddylid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar y cynigion i gau’r ysgolion.
O ran Ysgol Ysbyty Ifan, pleidleisiodd cynghorwyr o bump i dri o blaid peidio ag argymell cau’r ysgol, gydag wyth yn ymatal.
O ran Ysgol Betws y Coed, pleidleisiodd yr aelodau hefyd o blaid peidio ag argymell cau’r ysgol, gydag wyth o blaid, chwech yn ymatal, a dau yn erbyn.
Dim ond 14 o ddisgyblion sydd yn y ddwy ysgol.