Cyn-seren Cymru James Collins yn colli i 'ddyn caletaf Prydain' yn ei ornest focsio gyntaf

James Collins yn bocsio. Llun: Mitfits Boxing

Fe gollodd cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, James Collins, yn ei ornest focsio gyntaf nos Sadwrn.

Roedd Collins, a chwaraeodd 51 o weithiau dros Gymru ac i glybiau Caerdydd, Aston Villa a West Ham, yn brwydro yn erbyn Big Stacks, dylanwadwr bocsio sy'n hyrwyddo'i hun fel "dyn caletaf Prydain."

Roedd yr ornest bedair rownd o hyd yn rhan o ddigwyddiad gan gwmni Misfits cyn y brif ornest rhwng y personoliaethau teledu Joey Essex a Dapper Laughs yn Llundain.

Fe dderbyniodd Collins, sy'n 43 oed ac a ymddeolodd o bêl-droed yn 2019, yr her ar fyr rybudd ar ôl cymryd lle seren y rhaglen The Apprentice, Tom Skinner.

Dim ond pedair wythnos o hyfforddiant oedd ganddo i baratoi ac ymddangosodd yn y sgwâr gyda'r ffugenw 'Ginge' - cyfeiriad at ei wallt coch adnabyddus - ar ei drowsus byr.

Cafodd Collins ei fwrw i'r llawr yn y drydedd rownd gan ei wrthwynebydd ond fe lwyddodd i godi cyn i'r dyfarnwr orffen cyfrif. Er hynny, Big Stacks hawliodd y fuddogliaeth ar bwyntiau, gyda dau feirniad yn sgorio'r ornest o blaid y gŵr 33 oed, ac un yn credu mai Collins aeth â hi.

Llun: Misfits Boxing

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.