Cyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn y llys ar gyhuddiad o fod â lluniau anweddus o blant
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Mae cyn-gynhyrchydd gyda BBC Cymru wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant.
Fe wnaeth Dylan Dawes ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun.
Mae'n wynebu tri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o feddu ar ddelwedd neu ddelweddau pornograffig eithafol sy'n portreadu gweithred ryw gydag anifail marw neu fyw.
Mae'r cyhuddiadau'n honni fod ganddo'r delweddau yn ei feddiant ar 28 Chwefror 2022.
Fe wnaeth Mr Dawes ymddangos yn y doc yn gwisgo crys glas golau, tei llwyd a glas, a siaced a throwsus du.
Ni chyflwynodd ble yn ystod y gwrandawiad.
Siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.
Fe wnaeth y Barnwr Richard Kember osod 7 Ebrill ar gyfer dyddiad yr achos llys yn erbyn Mr Dawes.
Bydd yr achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd, ac mae disgwyl iddo bara am rhwng tri a phedwar diwrnod.
Cafodd Mr Dawes ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.