Cyn gyfarwyddwr cynnwys yn cyhuddo S4C o 'beidio diogelu iechyd, lles a diogelwch'

Amanda Rees
Mae un o gyn-reolwyr S4C wedi cyhuddo'r darlledwr o "beidio diogelu ei hiechyd, lles a diogelwch".
 
Amanda Rees yw'r trydydd cyn-uwch reolwr yn S4C i ddwyn achos uchel lys yn erbyn y sianel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
 
Mae Ms Rees wedi dweud ei bod yn cymryd y cam hwn "gan fy mod yn teimlo bod angen rhoi sylw cywir i'r materion" a bod hefyd angen "caniatau i'r gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd gael ei glywed" drwy gynnal achos llys sifil.
 
Ym mis Hydref y llynedd, setlwyd hawliad am anaf personol gan gyn-brif weithredwr y sianel, Sian Doyle, yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams.
 
Mae Newyddion S4C yn deall bod hawliad yn erbyn diogelu data gan y cyn-brif swyddog cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, yn erbyn y darlledwr a Rhodri Williams hefyd ar fin cael ei setlo.
 
Fe gafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo am gamymddwyn difrifol ym mis Hydref 2023 wedi honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru Mike Phillips tra yn feddw yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 
 
Mae Ms Griffin-Williams yn parhau i wadu'r cyhuddiad.
 
Mewn datganiad swmpus gan gyfreithwyr Amanda Rees, Irwin Mitchell, ddydd Mercher, honnir i uwch reolwyr a bwrdd S4C "fethu â goruchwylio proses (newidiadau mewnol) weithredwyd mewn modd anaddas a gor-rymus, yn ddigonol."
 
Dywed ei chyfreithwyr bod yna ddiwylliant gwaith "gwenwynig" o fewn S4C ar y pryd, lle'r oedd "bwlio yn digwydd dan rith newidiadau mewnol."
 
Yn ôl cwmni Irwin Mitchell, mae Amanda Rees wedi "dioddef gofid seicolegol estynedig" a "methiant y galon arweiniodd at driniaeth ysbyty a thriniaeth feddygol sydd yn parhau."
 
Mae cyfreithwyr y cyn-gyfarwydddwr cynnwys a chyn-gyfarwyddwr platfformau yn honni iddi godi pryderon am ddulliau rheoli sawl gwaith cyn ymddiswyddo ym mis Hydref 2023.
 
'Derbyn y niwed i fi'
 
Doedd Ms Rees ddim ar gael i wneud cyfweliad, ond caiff ei dyfynnu yn natganiad ei chyfreithwyr yn dweud:
 
"Roeddwn i'n caru fy ngwaith ac roedd S4C, ei phwrpas a'r bobl roeddwn i'n gweithio gyda nhw yn agos at fy nghalon. Dros amser serch hynny, roeddwn yn gallu gweld bod ei gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu herydu ac fe drodd yr awyrgylch yn un anniogel oedd yn achosi ofn. Roeddwn yn teimlo wedi fy sarhau a fy nhanseilio yn gyson, wrth geisio parhau mewn rôl flaenllaw gyda chyfrifoldeb am les eraill.
 
"Effeithiodd y straen arna'i yn fawr. Es i o fod yn hyderus ac yn frwdfrydig am fy ngyrfa i fod yn bryderus, yn ofnus a ddim yn dda. 
 
"Dioddefais fethiant i'r galon fel canlyniad uniongyrchol - digwyddiad sydd wedi newid fy mywyd ac wedi fy ngadael gyda symptomau trawma a phryder. Mae'r effaith ar fy ngyrfa wedi bod yn ddifrifol a dwi'n parhau i fyw gyda hynny."
 
Ychwanegodd: "Dwi heb ddod â'r camau cyfreithiol yma ar chwarae bach. Nodais fy mhryderon drwy law fy nghyfreithwyr gydag S4C ym mis Ionawr 2025, gan obeithio y byddai'r Bwrdd a'r uwch-arweinwyr yn derbyn y niwed i fi ond ni wnaethon nhw hynny."
 
"Rwyf wedi cymryd y cam hwn gan fy mod yn teimlo bod angen rhoi sylw cywir i'r materion hyn a ddylen ni ddim caniatáu i'r gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd beidio â chael ei glywed.
 
"Dwi ddim yn teimlo y gall corff wneud newidiadau positif ac ystyrlon, heb fod yn ymwybodol ac yn atebol am gamgymeriadau'r gorffennol."
 
Nid oedd S4C am wneud unrhyw ymateb i ddatganiad Amanda Rees.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.