Cyn-brif weithredwr yr SNP wedi ei gyhuddo o ddwyn £459,000 o arian y blaid

snp

Mae cyn-brif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, wedi’i gyhuddo o ddwyn £459,000 gan y blaid mewn cyfnod o dros 12 mlynedd, yn ôl adroddiadau.

Mae wedi’i gyhuddo o ddwyn yr arian rhwng Awst 2010 ac Ionawr 2023, yn ôl cyhuddiad mewn dogfennau sydd wedi eu gweld gan y BBC ac a adroddwyd amdanynt yn gyntaf gan The Sun.

Yr honiad yw bod Mr Murrell, sydd wedi gwahanu o Nicola Sturgeon, wedi defnyddio’r arian i brynu eitemau gan gynnwys cartref moduro a nwyddau moethus, ac er mwyn prynu dau gar.

Mae disgwyl i’r Albanwr 61 oed ymddangos yn yr Uchel Lys yn Glasgow mewn gwrandawiad ar 20 Chwefror.

Ymchwiliad

Cafodd ei arestio gyntaf ym mis Ebrill 2023 fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP ac fe gafodd ei gyhuddo ym mis Ebrill 2024.

Fe wnaeth Murrell ymddangos yn Llys Siryf Caeredin ym mis Mawrth 2025 i wynebu cyhuddiad o ddwyn. Ni wnaeth gynnig ple ar y pryd.

Yn ôl adroddiadau, mae'r cyhuddiad yn cynnwys honiadau bod Mr Murrell wedi defnyddio arian y blaid i brynu cartref moduro gwerth £124,550 ar gyfer ei ddefnydd personol ei hun.

Mae honiadau hefyd iddo ddefnyddio £57,500 o arian yr SNP tuag at brynu car Jaguar I-PACE gwerth £81,000 yn 2019, a £16,489 tuag at Volkswagen Golf gwerth £33,000 ar ddechrau 2016.

Hyd nes iddo ymddiswyddo yn 2023 yn ystod y ras am arweinyddiaeth y blaid i olynu Ms Sturgeon, roedd Mr Murrell wedi bod yn brif weithredwr yr SNP am fwy nag 20 mlynedd.

Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddodd Ms Sturgeon ei bod hi a Mr Murrell wedi “penderfynu dod â’u priodas i ben”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.