Cyn-arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas yn dweud na fydd ymchwiliad heddlu pellach yn ei erbyn

Dan Thomas

Mae Dan Thomas, cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, wedi dweud ei fod wedi cael gwybod gan Heddlu Gwent na fydd ymchwiliad pellach i honiadau yn erbyn.

Fis Medi eleni, cafodd Dan Thomas ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o reoli drwy orfodaeth.

O ganlyniad fe wnaeth gamu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl cael ei arestio.

Mewn datganiad fe ddywedodd Dan Thomas ei fod wedi cael gwybod na fyddai'r ymchwiliad yn parhau.

“Ar 13 Medi, cefais fy nghyhuddo ar gam, ac rwyf wedi cydweithredu’n llawn â’r heddlu," meddai.

"Heddiw, mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn dod â’r ymchwiliad i ben heb gymryd unrhyw gamau pellach.

“Pan ddechreuodd hyn oll, dywedais nad oeddwn wedi gwneud dim o’i le. Heddiw, rwyf wedi cael fy nghyfiawnhau.

“Rwyf am dalu teyrnged i fy mhlaid, sydd wedi sefyll yn gadarn wrth fy ochr drwy gydol y cyfnod hwn.

“Mae Nigel Farage, Helen Jenner a’m cyd-Aelodau yma yn y Senedd wedi bod yn hynod gefnogol.

“Rwyf hefyd am ddiolch i aelodau Plaid Reform.

“Mae’r gefnogaeth a’r cariad rydych wedi’u dangos tuag ataf dros y misoedd diwethaf wedi codi fy nghalon.

“I’m teulu ac i bobl Coed Duon, fy nhref enedigol, diolch am sefyll wrth fy ochr. Mae’r etholwyr hynny sydd wedi fy stopio ar y stryd i ddymuno’n dda i mi wedi bod yn ffynhonnell fawr o nerth i mi.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Heddlu Gwent.

Rhagor i ddilyn...

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.