Cymru'n colli yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad
Fe gollodd Cymru 62-24 yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad ym Mryste ddydd Sadwrn gan ildio 10 cais.
Roedd Cymru wedi colli 11 o'u 12 gêm brawf ddiwethaf, ac yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2024 yn erbyn tîm dan gapteniaeth Meg Jones gafodd ei geni yng Nghaerdydd.
Roedd Cymru dan y lach o'r gic gyntaf gyda Lloegr yn pwyso ar sawl achlysur o flaen torf o 27,000 yn Ashton Gate.
Daeth cais cyntaf Lloegr gan yr wythwr Maddie Feaunati ar ôl chwe munud gyda'r canolwr Helena Rowland yn trosi. Lloegr 7-0 Cymru.
Roedd Lloegr yn beryglus bob tro gyda'r bêl yn eu dwylo ac fe groesodd yr asgellwr Millie David am ail gais i'r tîm cartref gan gynyddu mantais Lloegr i 12.
Er mawr syndod fe groesodd y mewnwr Keira Bevan am gais ar ôl 18 munud yn dilyn lein ar ôl i Loegr gael eu cosbi.
Fe drosodd Bevan hefyd. Lloegr 12-7 Cymru.
Er i Gymru fwynhau ychydig o funudau o feddiant yn dilyn hyn, roedd eu chwarae yn araf o gymharu â Lloegr.
Daeth trydydd cais i Loegr gan y blaenasgellwr Marlie Packer ar ôl 24 munud o lein gyda Rowland yn ychwanegu'r trosiad. Lloegr 19-7 Cymru.
Ychwanegodd y crysiau gwynion gais yn fuan wedyn gyda'r canolwr a'r capten Meg Jones yn torri trwy'r amddiffyn o 40 metr. Lloegr 24-7 Cymru.
Er hyn fe ddaliodd Cymru ati ac fe ddaeth ail gais gan y bachwr Kelsey Jones yn dilyn symudiad celfydd o lein gan hanneru mantais Lloegr i 24-12.
Daeth ail gais i Jones dros Loegr ar ôl 39 munud pan ledaenwyd y bêl i'r asgell ac roedd Jones yno i gefnogi.
Y sgôr ar yr egwyl: Lloegr 29-12 Cymru.
Fe aeth Lloegr ymhellach ar y blaen ar ôl 47 munud gyda grym eu blaenwyr yn rhoi'r cyfle i'r bachwr Amy Cokayne groesi gyda Rowland yn trosi. Lloegr 36-12 Cymru.
Daeth ergyd arall i Gymru wrth i'r cefnwr Kayleigh Powell dderbyn cerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol pan roedd Lloegr yn ymosod.
Yn syth wedyn daeth seithfed cais y gêm i Loegr gan yr asgellwr Claudia Moloney-MacDonald. Lloegr 41-12 Cymru.
Fe ddaeth Alisha Joyce i'r cae fel eilydd i Gymru 158 o ddiwrnodau ar ôl rhoi genedigaeth i'w mab Ralphie gan ymuno â'i gwraig Jasmine yn y tîm.
Daeth ceisiau ychwanegol i Loegr gan Jess Breach, Marlie Packer a Maud Muir.
Fe lwyddodd y capten Beth Lewis i groesi am drydydd cais i Gymru gyda Bevan yn trosi.
Ym munudau ola'r gêm fe groesodd yr eilydd Seren Lockwood am bedwerydd cais i Gymru i sicrhau pwynt bonws.
Y sgôr terfynol: Lloegr 62-24 Cymru
Llun: Asiantaeth Huw Evans