Cymru Premier JD: Y Barri'n teithio i Sir y Fflint i herio Cei Connah

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Cei Connah

Yn yr unig gêm yn y Cymru Premier JD ddydd Sul, fe fydd Cei Connah yn croesawu'r Barri i'r Stadiwm Essity yn y Fflint.

Yn nhymor cyntaf John Disney wrth y llyw, mae Cei Connah wedi sicrhau’r ail safle gan gadarnhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.

Mae’r Nomadiaid wedi chwarae’n gyson ar y llwyfan Ewropeaidd yn y degawd diwethaf, ond ar ôl tymor o seibiant ar ôl gorffen yn 8fed llynedd, bydd selogion Cei Connah yn paratoi am antur arall yn Ewrop eleni.

Ar ôl cyfnod o chwe gêm heb ennill, mae Cei Connah wedi troi’r gornel ac wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf wrth i’r Nomadiaid geisio gorffen y tymor yn gryf.

Mae’r Barri hefyd wedi perfformio’n gadarn yn ddiweddar gan ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf a chadw pedair llechen lân.

Mae hi wedi bod yn dymor rhagorol i’r Dreigiau dan arweiniad Steve Jenkins gyda’r tîm yn cyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif.

Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau’r tymor hwn, gyda’r ornest gyntaf yn gorffen yn ddi-sgôr, cyn i Gei Connah ennill unwaith, a’r Barri’n ennill unwaith.

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖❌❌✅✅

Y Barri: ✅✅✅❌✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.