Cymeradwyo 'adeilad uchaf Cymru' yng Nghaerdydd
Mae cais cynllunio ar gyfer tŵr uchaf Cymru yng nghanol Caerdydd wedi’i gymeradwyo gan gyngor y ddinas.
Mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Dinas Caerdydd ddydd Iau, fe wnaeth aelodau bleidleisio o blaid caniatáu’r datblygiad ar gyfer adeilad 50 llawr yn Sgwâr Canolog y brifddinas.
Fe fyddai'r adeilad newydd yn 180m o uchder ar ôl ei gwblhau, ac yn cynnwys 528 o unedau preswyl.
Cwmni Reap 3 limited, sydd yn is-gwmni i Bluecastle Capital, sydd yn gyfrifol am y datblygiad.
Fe fydd y prosiect yn costio £133 miliwn, gyda'r cyllid wedi'i sicrhau drwy fuddsoddiadau yn y sector breifat, tra bod disgwyl y bydd 624 o swyddi adeiladu yn cael eu creu er mwyn cwblhau'r prosiect.
Dywedodd y swyddog cynllunio, Simon Gilbert bod yr adeilad yn “ymdebygu’r adeilad Flatiron yn Efrog Newydd.”
“Dyma’r adeilad uchaf erioed i gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio yng Nghymru, ac wrth reswm, mae ganddi ddimensiynau rhyfeddol.”
Gwrthwynebiad
Roedd Cadw, perchennog Castell Caerdydd, wedi gwrthwynebu’r cais, gan ddweud y byddai’n achosi “effaith andwyol ar gefndir cytûn gorwel y Ddinas sy’n dod i’r amlwg yn Nhŵr Cloc y castell.
“Bydd ei faint yn dominyddu’r olygfa hon, gan effeithio ar y golygfeydd agored strategol cynnar a nodwedd amlwg bresennol Tŵr y Cloc, sef y strwythur arwyddocaol yn yr olygfa hon”.
Roedd BBC Cymru, sef perchennog adeilad Sgwâr Canolog gyfagos, wedi codi pryderon am "y cyfnod adeiladu a chyflenwi - unrhyw effeithiau o sŵn, llwch a dirgryniad yn ystod y gwaith adeiladu a allai effeithio ar y gweithgareddau darlledu.”
Roedd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi hefyd wedi lleisio pryder am yr effaith ar eu swyddfa yn Nhŷ William Morgan, gan gynnwys colli golau dydd, gor-gysgodi a cholli golygfeydd.
Roedd cais am adeilad 35 llawr ar y safle eisoes wedi’i gymeradwyo gan y pwyllgor yn 2023. Ond roedd y cais diwygiedig, a gafodd ei gyflwyno’r llynedd, yn cynnwys 15 llawr ychwanegol, yn ogystal â chaffi a hwb beiciau.
Fe fyddai’r adeilad hefyd yn cynnwys tri llawr o gyfleusterau i drigolion, yn cynnwys sinema, campfa a sawna, yn ogystal â theras ar do’r adeilad.
Mae datblygwyr hefyd wedi neilltuo dros £1 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy o fewn yr adeilad.
'Dinas rhyngwladol'
Dywedodd y cynghorydd Sean Drsicoll: “Dyma adeilad nodedig sydd yn dirnod, sydd yn cynrychioli ebychnod ar y Sgwâr Canolog a’r ddinas.
"Os ydych chi’n dod i ddigwyddiadau yn Stadiwm y Mileniwm, fe fydd yn eich tywys o Bont Hafren.”
Dywedodd y cynghorydd Adrian Robson: “Dwi wedi darllen drwy ymateb Cadw, ac efallai fy mod i’n methu rhywbeth, ond i fi, sa i’n gweld unrhyw effaith ar Gastell Caerdydd.
“Fe fydd y tirlun yn parhau i ddatblygu. Rwy’n dweud yn aml, rydym yn ddinas ryngwladol sydd yn symud ac yn tyfu’n gyflym, ac mae hynny’n golygu y bydd y tirlun yn newid, ac fe fydd adeiladau newydd yn dod. Sa i’n gweld unrhyw beth i wrthwynebu.”
Cafodd y cais ei gymeradwyo gydag amodau. Fe wnaeth naw aelod o’r pwyllgor bleidleisio o blaid y datblygiad, gydag un yn ymatal a neb yn gwrthwynebu.