Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi pryder mewn sinema yng Ngwynedd

Galeri
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai pobl ifanc mewn sinema yng Ngwynedd wedi achosi pryder i'w pherchnogion, gan arwain at reol newydd yno.
 
Mewn datganiad dydd Gwener, dywedodd Galeri Caernarfon fod yr ymddygiad diweddar yn cynnwys "difrodi seddi, gweiddi ar gwsmeriaid, ffilmio yn y sgriniau a bod yn fygythiol."
 
O ganlyniad bydd yn rhaid i bob plentyn o dan 16 oed sydd am weld ffilmiau yno am 19:00 "fynychu’r sinema yng nghwmni oedolyn cyfrifol."
 
Mewn datganiad, dywedodd Galeri: "Mae pawb yn mwynhau mynd i’r sinema - lle i ymlacio, dysgu a mwynhau y ffilmiau diweddara hefo’ch hoff actorion. 
 
"Fodd bynnag, yn ddiweddar rydym wedi bod yn derbyn mwy a mwy o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai pobl ifanc yn ein sgriniau sinema. 
 
"Mae hyn yn peri pryder mawr i ni fel canolfan, gan ein bod wrth ein bodd yn gweld pobl ifanc yn dod drwy’n drysau ac yn teimlo’n rhan o fwrlwm Galeri.
 
"Oherwydd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol - gan gynnwys difrodi seddi, gweiddi ar gwsmeriaid, ffilmio yn y sgriniau a bod yn fygythiol - rydym, gyda chalon drom, yn cyflwyno rhai newidiadau dros dro i’n polisïau cynulleidfaoedd er mwyn sicrhau profiad pleserus i bawb."
 
Ychwanegodd y datganiad:  "O hyn ymlaen, gofynnwn i bob plentyn o dan 16 oed fynychu’r sinema yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar gyfer ein dangosiadau 19.00. 
 
"Os nad oes oedolyn cyfrifol yn bresennol, neu os nad oes modd profi oedran, ni fydd modd cael mynediad i’r sinema.
 
"Rydym yn ymddiheuro’n fawr am hyn, ac yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth. Hoffem bwysleisio mai trefniant dros dro yw hwn, a byddwn yn monitro’r sefyllfa’n agos wrth i ni weithio tuag at ddatrysiad hirdymor.
 
 "Plis helpwch ni i barchu ased gwych i’r gymuned, ac edrych ar ei hôl hi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.