Dyn wedi bwrw dyn arall gyda bat pêl fas ar ôl gwrthdrawiad

Heol St Julian's

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn daro dyn arall gyda bat pêl fas ar ôl gwrthdrawiad.

Mae swyddogion wedi wedi arestio dau unigolyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar Heol St Julian's, Casnewydd, am tua 10.45 ddydd Mercher 13 Mai.

Ar ôl i ddau gerbyd daro ei gilydd, roedd un o'r gyrwyr wedi taflu sylwedd sydd heb ei adnabod dros ddyn 50 oed a'i daro â bat pêl-fas cyn ffoi o'r lleoliad.

Fe aeth swyddogion yr heddlu i’r fan a’r lle ochr yn ochr â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cafodd y dyn 50 oed ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth. Dyw’r heddlu ddim yn credu bod ei anafiadau'n peryglu bywyd.

Cafodd dyn 34 oed o Gaerdydd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau.

Mae dyn 23 oed, sydd hefyd o Gaerdydd, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae'n parhau yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Evans: "Er ein bod yn deall y gall adroddiadau o'r math hwn beri pryder, hoffem dawelu meddyliau ein cymunedau lleol nad oes cysylltiad rhwng hyn a'r llofruddiaeth yng nghymuned Alway ar 7 Mai.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i ymchwilio i'r ddau ddigwyddiad, a byddwn yn parhau i gynnal ein hymholiadau yn yr ardal."

Mae swyddogion sy'n ymchwilio yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng, gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600149086.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.