Cyhoeddi mai Ken Skates fydd arweinydd parhaol Llafur Cymru
Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi mai Ken Skates fydd eu harweinydd parhaol.
Mae wedi bod yn arweinydd dros dro ers i’r cyn Brif Weinidog Eluned Morgan gamu o’r neilltu ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.
Agorodd Llafur Cymru y broses enwebu ddydd Iau diwethaf i ddewis arweinydd parhaol, gan ddechrau gydag enwebiadau gan Grŵp Llafur y Senedd.
Enwebodd pob un o naw aelod y grŵp Skates, gan gadarnhau ei benodiad yn Arweinydd.
Dywedodd Ken Skates AS: “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael cefnogaeth unfrydol fy nghyd-Aelodau yn y Senedd wrth geisio arweinyddiaeth Llafur Cymru.
“Fe wnes i ymuno â’r blaid pan oeddwn i’n 14 oed, ac rwy’n dal i gredu na ddylai cefndir plentyn bennu ei ddyfodol.
“Ni ddylai unrhyw berson ifanc gael ei farnu ar sail unrhyw beth heblaw’r ymdrech y mae’n ei wneud a’r parch y mae’n ei ddangos at eraill.
“I mi, mae’r mudiad Llafur yn fudiad dros degwch, cyfiawnder, diogelwch a rhyddid. Mae’n fudiad sy’n ceisio grymuso pobl a chymunedau ac ymladd yn erbyn anghyfiawnder, anoddefgarwch, nepotiaeth a chreulondeb.”
Cafodd Skates ei ethol am y tro cyntaf yn 2011, ac mae wedi dal nifer o swyddi yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.
Cafodd ei ail-ethol i’r Senedd dros etholaeth newydd Fflint Wrecsam ym mis Mai.
Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur Cymru, yr AS Carolyn Harris: “Llongyfarchiadau twymgalon i Ken.
“Mae ganddo fy nghefnogaeth lawn wrth iddo ymgymryd â’r dasg fawr sydd o’i flaen, sef gwrando, dysgu, ailadeiladu a gwneud y gwaith hollbwysig o ddwyn Plaid Cymru a Reform UK i gyfrif yn y Senedd.
“Does gen i ddim amheuaeth bod ganddo’r egni, y meddylgarwch a’r optimistiaeth i’n harwain ymlaen, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag ef.”