Dan Thomas wedi camu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl cael ei arestio
Mae Dan Thomas wedi camu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl cael ei arestio.
Dywedodd ei fod wedi bod yn destun adroddiad i'r heddlu dros y penwythnos, a'i fod wedi ei ryddhau heb ei gyhuddo.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 45 oed o ardal Aberbargoed wedi ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o ymosod ac o reoli drwy orfodaeth.
"Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau” meddai llefarydd.
Yn ei ddatganiad yn cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd, dywedodd Dan Thomas: "Gyda thristwch mawr, rwyf bellach yn camu i lawr o’r swydd hon am resymau personol."
"Hoffwn bwysleisio nad wyf wedi gwneud dim byd o’i le, ond nid wyf am i’r penawdau sydd i ddod dynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae ein tîm yn y Senedd yn ei wneud wrth ddal y llywodraeth hon i gyfrif.
“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy etholwyr yng Nghasnewydd Islwyn ac yn cefnogi’n llawn pwy bynnag a ddewisir gan y grŵp fel ei arweinydd nesaf.”
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn "anrhydedd fawr" i arwain Reform yng Nghymru.
Etholiad
Cafodd Mr Thomas ei enwi'n arweinydd yng Nghymru ym mis Chwefror, ac arweiniodd Reform i ddod yn ail blaid fwyaf y Senedd yn yr etholiad ym mis Mai.
Nid oedd yn bresennol yn sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mawrth, gyda'i ddirprwy Helen Jenner yn camu i mewn yn ei le.
Cafodd y cyn-gynghorydd Ceidwadol ei eni a’i fagu yn Ne Cymru.
Arweiniodd Gyngor Barnet rhwng 2019 a 2022 cyn ymuno â Reform ym mis Mehefin y llynedd.
Yn ddiweddarach, ymddiswyddodd fel cynghorydd dros Finchley Church End ar ôl dychwelyd i Gymru gyda’i deulu.
Dywedodd Mr Thomas mewn cynhadledd yn gynharach eleni ei fod wedi’i “eni a’i fagu” yn y Cymoedd cyn gadael am Lundain i ddilyn gyrfa yn y gwasanaethau ariannol.
O ddrwg i waeth
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Reform yn dilyn ymddiswyddiad Mr Thomas ddydd Mawrth.
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Mr Thomas wedi ymddiswyddo, dywedodd Plaid Cymru bod Sarah Cooper-Lesadd, gafodd ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Reform ym mis Mai, wedi ymuno â’r blaid.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru, dywedodd hithau: “Does gan Reform ddim diddordeb o gwbl yn y gwaith y deuthum yma i’w wneud.
"Dyw nhw ddim o ddifrif ynglŷn â llywodraethu Cymru. Mae ganddyn nhw lawer mwy o ddiddordeb mewn creu rhaniadau, gwrthwynebu, a phenawdau gwag sydd ddim yn cynnig atebion.
"Mae awydd gwirioneddol yn y grŵp i’r llywodraeth fethu, a dim diddordeb yn yr hyn y byddai'r methiant hwnnw'n ei olygu i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli."
“Does gan y blaid yn ganolog ddiddordeb o gwbl yng Nghymru,” ychwanegodd.
'Sefydlogrwydd'
Wrth ymateb i'r datblygiadau diweddaraf gyda Reform, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae cwestiynau difrifol ynghylch sefydlogrwydd Reform a'r dewisiadau sy'n cael eu gwneud gan bobl a etholwyd o dan ei faner dim ond pedwar mis yn ôl.
"Ni fyddai'n briodol gwneud sylw ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud â Dan Thomas tra bod ymchwiliad gan yr heddlu ar y gweill.
"Ond yr hyn sy'n glir yw bod Reform bellach heb yr arweinydd a'i harweiniodd i etholiad y Senedd, tra bod un arall o'i Aelodau o'r Senedd wedi dewis troi cefn ar y blaid yn llwyr.
"Mae pobl ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol ac yn haeddu arweinyddiaeth wleidyddol ddifrifol a sefydlog sy'n canolbwyntio ar eu blaenoriaethau."
'O chwith yn gyflym'
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae pethau’n mynd o chwith yn gyflym i Reform yng Nghymru ac ar draws y wlad.
“Dim ond misoedd ar ôl iddynt honni eu bod yn barod i lywodraethu, mae un o’u haelodau blaenllaw eu hunain wedi rhoi ei barn lem nad yw Reform o ddifrif dros lywodraethu Cymru, a’u bod yn fwy â diddordeb mewn rhaniadau a phenawdau na gwella bywydau pobl mewn gwirionedd.
“Mae Cymru’n haeddu gwell na’r anhrefn a’r sgandalau cyson sy’n plagio Reform.
"Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i gynnig gwrthblaid adeiladol sy’n canolbwyntio ar gyflawni pethau ar gyfer ein cymunedau a gwella bywydau pobl ledled Cymru.”