Cyhoeddi enw gorsaf ynni niwclear newydd ar safle Wylfa ym Môn
Mae enw gorsaf ynni niwclear newydd ar safle Wylfa ar Ynys Môn wedi ei gyhoeddi yn dilyn cystadleuaeth gyhoeddus i ddewis yr enw.
Yr enw newydd ar y safle yw Gwyndod.
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae Gwyndod yn golygu 'gwynfyd, dedwyddydwch, hapusrwydd, llwyddiant, neu fudd'.
Cafodd pobl yr ynys wahoddiad i ddewis yr enw ac fe gafodd yr enw buddugol ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Rolls-Royce sydd wedi cael y cytundeb i adeiladu adweithyddion modiwlaidd bach ('small modular reactors') ar y safle.
Roedd Great British Energy - Nuclear, sy’n arwain cynlluniau’r llywodraeth i ddatblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear yn y Deyrnas Unedig, wedi dweud ei fod am "sicrhau bod y gymuned leol yn chwarae rhan ganolog" yn natblygiad y prosiect o’r cychwyn cyntaf.
Bydd safle’r Wylfa, sydd wedi bod yng nghanol trafodaethau am ddyfodol ynni yng Nghymru ers blynyddoedd, yn cael ei ddatblygu fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau diogelwch ynni’r DU a lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil ac ar fewnforion tramor.
Inline Tweet: https://twitter.com/WalesOffice/status/2070444030052212986
Roedd Great British Energy - Nuclear wedi awgrymu y gallai’r enw newydd adlewyrchu cysylltiad yr ynys â’r môr, natur, hanes diwydiannol neu’r iaith Gymraeg.
Fe wnaeth panel oedd yn cynnwys pobl ifanc, cynrychiolwyr lleol ac arbenigwyr ystyried yr enwau cyn llunio rhestr fer.
Mae cefnogwyr y cynllun niwclear yn dweud y gallai datblygiad newydd ar safle’r Wylfa greu miloedd o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol dros y degawdau nesaf, yn ogystal â darparu hwb economaidd mawr i’r ardal.
Mae gwrthwynebwyr yn parhau i godi pryderon am ddiogelwch niwclear, gwastraff ymbelydrol ac effaith bosibl unrhyw ddatblygiad mawr ar gymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol.
Llun: Rolls-Royce