Cyfres ddetio Amour a Mynydd yn dychwelyd am drydedd gyfres
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd y gyfres ddetio boblogaidd Amour & Mynydd yn dychwelyd am drydedd gyfres yn 2027.
Daw’r penderfyniad mewn ymateb i lwyddiant yr ail gyfres a ddaeth i ben nos Fercher.
Yn y gyfres, mae criw o unigolion sengl yn cydfyw mewn chalet yng nghanol mynyddoedd yr Alpau Ffrengig, yn y gobaith o ddod o hyd i bartner.
Yn ôl y darlledwr, roedd yr ail gyfres yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd iau, gyda data cynnar yn dangos bod mwy na 60% o gynulleidfa’r gyfres ar S4C Clic a BBC iPlayer rhwng 16-44 oed a bod dros draean ohonynt rhwng 25-34.
Bu ymateb da i gynnwys Amour & Mynydd ar gyfryngau cymdeithasol S4C hefyd gyda dros 2.3 miliwn o argraffiadau ac 1.2 miliwn o sesiynau gwylio.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C bod y gyfres yn “enghraifft wych o gynnwys S4C sy’n creu sŵn, yn tanio sgwrs ac yn codi gwen, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.”