Cyfergydion rygbi: Llys yn clywed y dylid dileu cannoedd o hawliadau cyfreithiol
Mae’r Uchel Lys wedi clywed y dylid dileu cannoedd o hawliadau cyfreithiol gan chwaraewyr rygbi sy’n dweud eu bod nhw wedi dioddef anafiadau ymennydd.
Mae chwaraewyr proffesiynol ac amatur yn honni bod World Rugby, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi Lloegr, Cynghrair Rygbi Lloegr a Chymdeithas Cynghrair Rygbi Amatur Prydain wedi torri eu dyletswydd i’w hamddiffyn rhag anafiadau.
Mae cyfreithwyr y chwaraewyr yn dweud eu bod wedi dioddef cyflyrau niwrolegol fel dementia cynnar, Parkinson’s, epilepsi a chlefyd motor niwron.
Roedd hynny oherwydd ergydion cyson drwy gydol eu gyrfaoedd chwaraeon, medden nhw.
Maen nhw’n dadlau bod gan y cyrff llywodraethu’r wybodaeth a’r adnoddau i ddeall y tebygolrwydd o niwed i’r ymennydd.
Ond, medden nhw, ni wnaethon nhw gymryd camau i’w atal na rhoi gwybod i’r chwaraewyr am y perygl.
Mae pob un o’r cyrff llywodraethu yn gwadu hynny ac yn amddiffyn eu hunain yn erbyn yr hawliadau cyfreithiol.
‘Eithafol’
Mae’r cyfreithiwr ar ran y cyrff llywodraethu yn dadlau fod cyfreithwyr y chwaraewyr wedi methu a datgelu gwybodaeth meddygol allweddol.
Yn 2024, cafodd cyfreithwyr y chwaraewyr orchymyn i roi adroddiadau a dogfennau meddygol i’r cyrff llywodraethu.
Roedden nhw yn cynnwys asesiadau niwroseicolegol a sganiau o ymennydd pob chwaraewr.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe gyhoeddodd yr Uchel Lys orchmynion pellach ynghylch datgelu dogfennau sy’n cynnwys y wybodaeth meddygol.
Roedd hynny’n golygu y gallai’r llys ddileu’r hawliadau pe na bai’r chwaraewyr yn cydymffurfio.
Ddydd Mercher, dywedodd cyfreithwyr y cyrff llywodraethu nad oedd sawl un o achosion y cyn-chwaraewyr wedi cydymffurfio â gorchmynion 2024 o hyd.
Roedden nhw’n dadlau felly y dylid dileu dros 500o’r hawliadau yn erbyn y cyrff llywodraethu.
Dywedodd Michael Kent CF, ar ran World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr, mewn cyflwyniadau ysgrifenedig mai dileu’r hawliadau oedd “y cam amlwg pan fod popeth arall wedi methu”.
Aeth Mr Kent yn ei flaen: “Nid oes unrhyw ateb arall sy’n rhesymol nac yn gymesur.”
Ond dywedodd Susan Rodway CF, ar ran y chwaraewyr, mewn cyflwyniadau ysgrifenedig nad oedd y methiannau “yn ddifrifol nac yn sylweddol” o ystyried “cyd-destun y camau cyfreithiol cymhleth hyn sy’n cynnwys nifer enfawr o ddogfennau”.
Dywedodd y byddai dileu’r hawliadau yn “ymateb eithafol”.
Aeth yn ei blaen: “Mae’r materion cyfreithiol hyn o ddiddordeb cyhoeddus ac o bwysigrwydd cymdeithasol sylweddol o ran parhad chwaraeon cyswllt a gwrthdrawiad yn y DU.
“Byddai’n hynod annymunol pe bai nifer sylweddol o’r cyn-chwaraewyr yn colli eu hawliadau ar sail gweithdrefnol.”
Mae disgwyl i’r gwrandawiad gerbron y Barnwr David Cook ddod i ben ddydd Iau.