Cyd-grëwr Father Ted yn flin y bydd yn cael ei dangos yn lle Eurovision yn Iwerddon
Mae cyd-grëwr y gyfres deledu Father Ted, Graham Linehan, wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu “yn y modd cryfaf posib” y penderfyniad i ddangos y sioe gomedi yn lle Eurovision yn Iwerddon.
Bydd darlledwr cenedlaethol Iwerddon yn dangos pennod Eurovision y gyfres, A Song For Europe, a ddarlledwyd gyntaf yn 1996.
Yn y bennod honno, mae’r offeiriaid Catholig Ted a Dougal yn cystadlu am le yn Eurovision gyda’r gân 'My Lovely Horse'.
Mae’n rhan o foicot y darlledwr RTÉ o’r gystadleuaeth oherwydd presenoldeb Israel yn sgil y rhyfel yn Gaza.
Nid yw Iwerddon, Sbaen na Slofenia wedi anfon cystadleuydd i 70fed cystadleuaeth Eurovision.
Ni fyddan nhw chwaith yn darlledu’r rownd derfynol.
Nid yw’r Iseldiroedd na Gwlad yr Iâ chwaith yn anfon perfformwyr i gystadlu yn Eurovision. Ond fe fyddan nhw’n darlledu’r rownd derfynol.
Cafodd Rwsia ei gwahardd o Eurovision ar ôl ymosod yn filwrol ar Wcráin yn 2022. Ond mae Israel wedi parhau i gystadlu.
Ysgrifennodd Linehan ar Twitter: “Ymunwch â mi i fynnu ymddiswyddiad Cyfarwyddwr Cyffredinol RTÉ am ddefnyddio Father Ted fel arf o aflonyddu gwrthsemitaidd.”
Fe rannodd ddolen at ddeiseb oedd yn galw am ymadawiad Kevin Bakhurst.
Dywedodd: “Wnes i ddim rhoi fy nghaniatâd i Father Ted gael ei ddefnyddio fel prop mewn gweithred wleidyddol wrthsemitaidd. Rwy’n gwrthwynebu hynny yn y modd cryfaf posib.
“Nid dyma’r Iwerddon rwy’n ei hadnabod. Nid dyma’r Iwerddon roddodd Father Ted i’r byd.
“Mae gwrthsemitiaeth sefydliadol RTÉ yn gwenwyno bywyd cyhoeddus Iwerddon. Mae’n normaleiddio casineb tuag at Iddewon dan gochl undod, ac mae’n rhaid ei herio.”
Mae’r ddeiseb wedi cael 700 o lofnodion.
Mae RTÉ wedi derbyn cais am sylw ar y mater.