Ymchwiliad wedi ymosodiad honedig ar ddyfarnwr rygbi gan chwaraewr mewn gêm yn ne Cymru
Mae’r heddlu yn ymchwilio yn dilyn ymosodiad honedig gan chwaraewr rygbi ar ddyfarnwr mewn gêm rygbi yn Nhorfaen fis diwethaf.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Glwb Rygbi Abersychan am tua 15:25 ddydd Sadwrn 24 Hydref, yn dilyn adroddiad o ymosodiad ar ddyfarnwr yng nghanol gêm rhwng Abersychan ac Old Tyleran.
Nid oedd angen triniaeth feddygol ar y dyfarnwr wedi’r digwyddiad.
Mae ymholiadau’n parhau i geisio canfod amgylchiadau’r digwyddiad.
Mae’r llu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion oedd yn y lleoliad yn ystod y gêm, i rannu gwybodaeth â nhw.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r llu drwy ffonio 101 neu ar wefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent, drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2600349185.