Undeb ffermio'n pryderu bydd clefyd y tafod glas 'yn dod 'nôl yn waeth' yn 2027
Undeb ffermio'n pryderu bydd clefyd y tafod glas 'yn dod 'nôl yn waeth' yn 2027
Mae NFU Cymru wedi rhybuddio y gallai effaith clefyd y tafod glas ar ffermydd Cymru fod yn waeth nag erioed y flwyddyn nesaf, os na fydd mwy o ffermwyr yn brechu eu hanifeiliaid cyn y gwanwyn.
Mae hynny'n gynnydd sylweddol ers mis Medi, pan oedd ychydig dros 100 o achosion wedi'u cofnodi.
Mae'r undeb yn poeni y gallai'r clefyd ledaenu ymhellach yn 2027, gyda'r gost o frechu anifeiliaid yn un o'r heriau sy'n wynebu ffermwyr.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dylan Morgan, Pennaeth Polisi NFU Cymru, fod angen i ffermwyr weithredu nawr er mwyn lleihau'r risg y bydd y clefyd yn achosi rhagor o niwed y flwyddyn nesaf.
"Mae’n gonsýrn i feddwl bod yna 500 o ffermydd wedi cael achos o tafod glas," meddai. "Ni’n gwybod yn Lloegr mae tua 3,000 o ffermydd wedi mynd lawr gyda’r tafod glas ac mae’r rhan fwyaf o’r rheiny yn y de orllewin, a ni’n gwybod lawr ma’na mae colledion enfawr wedi bod."
Dywedodd ei fod yn pryderu y bydd y "cynnydd sylweddol" fu'n Lloegr eleni "yn dod i Gymru'r flwyddyn nesaf."
"Mae’r wyddoniaeth yn dweud bod y clefyd yn mynd i oroesi [y gaeaf], yn enwedig o feddwl faint o wybed sydd wedi cael eu heffeithio eleni. Amser bod y tymheredd yn codi unwaith eto gwanwyn nesaf, y pryder yw y bydd e’n dod 'nôl yn waeth na beth ni wedi gweld eleni.”
498 achos
Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae achosion o'r tafod glas wedi'u cadarnhau mewn 20 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Sir Gaerfyrddin a Phowys sydd â'r nifer uchaf o achosion, gydag 83 yr un. Mae 73 o achosion wedi'u cofnodi yn Sir Benfro, 43 yng Ngwynedd a 37 yng Ngheredigion.
Mae hynny'n golygu bod 276 o'r 498 o achosion wedi'u cofnodi yn y pum sir hynny yn unig, sef mwy na hanner cyfanswm Cymru.
Mae'r diweddariad diwethaf yn dangos pum achos newydd, gydag un achos ychwanegol yr un yng Ngheredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Benfro a Phowys.
Mae'r cynnydd wedi codi pryderon am effaith y clefyd ar y diwydiant amaethyddol, yn enwedig wrth i ffermwyr baratoi ar gyfer y flwyddyn newydd.
Mae NFU Cymru yn annog ffermwyr i drafod y risg gyda'u milfeddygon ac i archebu brechlynnau cyn y gwanwyn, yn hytrach nag aros nes bod achosion newydd yn ymddangos.
"Y peth hollbwysig yw bod pob ffermwr yn siarad gyda milfeddyg i weithio lan cynllun am blwyddyn nesaf," meddai Dylan Morgan. "Yr unig ffordd i amddiffyn ein hunain yn erbyn y clefyd yw drwy frechu, a gweithio mas rhyw fath o gynllun ar sut a phryd i frechu cyn bod y tymheredd yn codi eto yn y gwanwyn."
Mae'r undeb yn rhybuddio y gallai peidio â gweithredu nawr olygu bod mwy o anifeiliaid yn agored i'r feirws pan fydd gweithgarwch y gwybed yn cynyddu eto yn ystod y misoedd cynhesach.
"Mae wedi bod gyda ni am ddwy flynedd yn barod a bydd e gyda ni blwyddyn nesaf. Mae’r cyfle gyda ni dros y gaeaf, yn mynd mewn i’r gwanwyn, i amddiffyn ein hunain a pharatoi ar gyfer blwyddyn nesaf. Mae’n bwysig bod ni yn cyfathrebu a chael y neges allan i bawb," meddai Dylan Morgan.
Ychwanegodd bod effeithiau hir dymor y feirws hefyd yn ansicr.
"'Dan ni ddim yn gwybod yr effaith tymor hir mae hyn yn mynd i'w gael. Ni wedi clywed rhai straeon ynglŷn â’r effaith ar ffrwythlondeb gwartheg a defaid. Ni ddim yn gwybod a fydd hynny yn cael effaith ar y nifer o ŵyn a lloi sydd yn cael eu geni gwanwyn nesaf. Mae hynny yn gonsýrn.”
Beth yw clefyd y tafod glas?
Feirws sy'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg a geifr, yw clefyd y tafod glas.
Mae'n cael ei ledaenu gan wybed sy'n cario'r feirws, yn hytrach na thrwy gyswllt uniongyrchol rhwng anifeiliaid.
Gall y clefyd achosi twymyn, briwiau yn y ceg, a chwyddo a phoen yn y traed, gan wneud symud a bwyta'n anodd i'r anifeiliaid.
Mewn achosion difrifol, gall arwain at farwolaeth, tra gall hefyd achosi erthyliadau a phroblemau atgenhedlu.
Mae'r clefyd wedi achosi colledion sylweddol i ffermwyr mewn rhannau o Ewrop, ac mae wedi ailsefydlu ym Mhrydain dros y blynyddoedd diwethaf.
Nid yw'r feirws yn peri risg i iechyd pobl, ac nid yw'n effeithio ar ddiogelwch cig na chynnyrch llaeth.
Er bod brechlyn ar gael yn erbyn y math BTV-3 o'r feirws, mae pryderon wedi bod ynghylch ei gyflenwad.
Roedd prinder brechlynnau am gyfnod yn ystod yr haf, gan godi cwestiynau am allu ffermwyr i ddiogelu eu hanifeiliaid mewn da bryd.
Mae'r sefyllfa hefyd wedi tynnu sylw at y penderfyniadau ariannol sy'n wynebu ffermwyr wrth ystyried brechu eu stoc.