Beiciwr modur wedi marw ar ôl mynd i'r môr yn dilyn gwrthdrawiad ger y Gogarth
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i ddyn farw ar ôl syrthio i'r môr yn dilyn gwrthdrawiad ger y Gogarth yn Llandudno nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw am 22:31 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur du ar Ffordd Forol y dref, tua milltir o'r Tŷ Tollau i gyfeiriad copa'r Gogarth.
O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, fe aeth y beiciwr modur i'r môr islaw'r Gogarth.
Cafodd y dyn ei dynnu o'r dŵr a'i gludo mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw'n ddiweddarach.
Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod am ei farwolaeth, ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae'r Rhingyll Alun Jones yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad.
"Yn anffodus, mae ymchwiliad bellach ar y gweill i'r digwyddiad fel gwrthdrawiad ffordd angheuol, ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn," meddai.
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio neu'n cerdded ar hyd Ffordd Forol nos Iau, 29 Hydref, i gysylltu â ni.
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio o'r Tŷ Tollau tuag at gopa'r Gogarth rhwng 22:00 a 22:30 ac a allai fod â recordiadau o gamera dangosfwrdd.
"Gallai unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddibwys y mae'n ymddangos, fod o gymorth i'n hymchwiliad."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000888717.
Llun: Google Maps