Carcharu dyn o Loegr a deithiodd i Gymru ac ymosod yn rhywiol ar ferch dan 13 oed

Llun: Heddlu De Cymru
Samuel Hyde

Mae dyn 35 oed o Loegr wedi cael ei garcharu am bedair blynedd ar ôl iddo deithio i dde Cymru ac ymosod yn rhywiol ar ferch o dan 13 oed.

Cafodd Samuel Hyde o Sir Gaerhirfryn ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau ar ôl pledio'n euog i ymosod yn rhywiol ar ferch o dan 13 oed drwy gyffwrdd â hi.

Plediodd yn euog hefyd i gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn, torri gorchymyn atal niwed rhywiol, a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Yn ogystal â'r ddedfryd, cafodd gyfnod estynedig o bedair blynedd ar drwydded.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd Hyde wedi bod yn anfon negeseuon at y dioddefwr am tua wythnos ar ddiwedd mis Mehefin, cyn teithio o Sir Gaerhirfryn i Dreherbert, Rhondda Cynon Taf, ar 30 Mehefin i geisio cyfarfod â hi.

Yn ystod y cyfarfod, fe ymosododd yn rhywiol ar y ferch. Llwyddodd y ferch i ddianc a galw am gymorth.

Daeth swyddogion yr heddlu o hyd i Hyde yn fuan wedyn a'i arestio. 

Wrth ei arestio, fe ddaethon nhw o hyd i gyllell yn ei feddiant.

'Cwbl annerbyniol'

Roedd Hyde eisoes yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol a gafodd ei roi iddo yn Llys y Goron Preston ym mis Tachwedd 2019.

Roedd y gorchymyn yn ei wahardd rhag siarad ag unrhyw blentyn o dan 16 oed heb oruchwyliaeth.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Thomas o Heddlu De Cymru fod ymddygiad Hyde yn "ysgytwol ac yn gwbl annerbyniol".

"Fe fanteisiodd ar y dioddefwr gan ddangos diffyg parch llwyr at ei lles," meddai.

"Rydym yn canmol dewrder y dioddefwr wrth ddod ymlaen i ddatgelu'r hyn a wnaeth Hyde iddi.

"Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef cam-drin rhywiol, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i'r heddlu."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.