Y gyfarwyddwraig teledu Meinir Siencyn wedi marw ar ôl brwydr â chanser

Meinir Siencyn

Mae'r gyfarwyddwraig teledu o Lanberis, Meinir Siencyn, wedi marw. 

Cyhoeddodd ei theulu nos Wener ei bod wedi marw ar 22 Hydref, ac y byddai dathliad o'i bywyd yn cael ei gynnal ar 20 Tachwedd.

Yn wneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwraig a pherson camera uchel ei pharch, roedd Meinir, a oedd yn wreiddiol o'r Wyddgrug, yn adnabyddus am ei gwaith ar deledu ac ym maes dawnsio gwerin a chlocsio.   

Roedd ganddi ganser Cam 4 yn ei hesgyrn a'i bron, ac fe sefydlodd ei phartner, Emyr Davies ymgyrch i ariannu triniaeth mewn canolfan ganser arbenigol yn yr Almaen.

Cafodd bron i £150,000 ei gasglu, er mwyn galluogi Meinir i gael triniaeth arbenigol ddwys yno.  

Dywedodd ei phartner Emyr ar y pryd bod y ganolfan honno yn cynnig opsiynau nad sydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd, gan nodi fod hynny wedi rhoi "gobaith gwirioneddol i Meinir," ond bod amser yn brin. 

Dros ŵyl y banc ddiwedd Awst, daeth criw o ffrindiau Meinir Siencyn at ei gilydd i ddringo'r Wyddfa yn ôl a blaen yn ddi-dor am dridiau er mwyn codi arian ar gyfer ei thriniaeth. 

Cafodd sawl twmpath dawns ei gynnal hefyd er mwyn cyfrannu at y gronfa. 

Image
Meinir Siencyn

 Cafodd Meinir ganser am y tro cyntaf nôl yn 2013, a llwyddodd i'w drechu. 

A hithau'n 34 oed, cafodd rhaglen ei darlledu bryd hynny ar S4C yn olrhain hanes Meinir gyda chanser y fron. 

Roedd O'r Galon: Stori Meinir yn rhaglen ddogfen deimladwy yn ei dilyn o'r dyddiau cyntaf o geisio ymdopi â'r newyddion hyd at y sesiynau chemotherapi angenrheidiol. 

Disgrifiodd y modd y bu'n rhaid iddi hi a'i phartner Emyr addasu i'r newidiadau mawr yn eu bywydau. 

13 mlynedd yn ddiweddarach, daeth ergyd yng ngwanwyn 2026, pan gafodd wybod bod y canser wedi dychwelyd.   

'Un o sêr y diwydiant'

Wrth roi teyrnged i Meinir Siencyn, dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan bod ganddi ddoniau amryddawn.

"Roedd Meinir Siencyn yn gyfarwyddwraig llawn angerdd," meddai.

"Roedd ganddi sgiliau technegol uchel, llygad am lun a thrwyn am stori - cyfuniad oedd yn ei gwneud yn un o sêr ein diwydiant.

"Rhannodd ei brwydr â chanser mewn ffilm ddogfen gignoeth, rymus a dewr. 

"Ei dymuniad oedd dangos beth oedd effaith canser a chodi ymwybyddiaeth. 

"Roedd bob amser yn gwmni siriol ac yn byrlymu gyda syniadau a chynlluniau. Bydd colled fawr ar ei hôl."

"Cydymdeimlad dwys gyda’i phartner Emyr a’r teulu a’i ffrindiau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.