Trydedd bont dros y Fenai: Datblygu pont newydd 'i'r dwyrain o Bont Britannia'

Dyluniadau posib o'r Opsiwn Porffor yn 2018
Trydedd Bont - dyluniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai pont newydd "i'r dwyrain o Bont Britannia" fydd yn cael ei datblygu fel trydydd croesiad dros y Fenai. 

Cyhoeddodd y llywodraeth yr wythnos diwethaf y bydd yn "bwrw ymlaen" â chynlluniau ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai, rhwng Gwynedd a Môn.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i adolygiad yn 2023 o dan y llywodraeth Lafur flaenorol argymell cefnu ar y cynlluniau a chanolbwyntio ar wella llif y traffig ar Bont y Borth a Phont Britannia yn lle.

Roedd pedwar opsiwn posib yn rhan o'r cynlluniau o dan y Llywodraeth Lafur, sef Opsiynau Coch, Pinc, Oren a Phorffor. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Hydref 2018 Carwyn Jones mai'r Opsiwn Porffor oedd yn cael ei ffafrio, sef pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 a 8A yr A55.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C yr wythnos hon mai dyma yw'r sefyllfa o hyd. 

"Opsiwn Porffor fydd y llwybr yr ydym yn ei ddatblygu," meddai'r llywodaeth. 

"Cadarnhawyd hwn fel y llwybr a ffefrir ym mis Hydref 2018 yn dilyn gwaith asesu blaenorol."

Ychwanegodd y llywodraeth mai'r cam nesaf yw bwrw ymlaen â'r gwaith dylunio a datblygu angenrheidiol, "ynghyd â’r prosesau amgylcheddol a statudol" sydd eu hangen i gyflawni’r cynllun.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2018 fod yr opsiwn Porffor yn "cynnig y manteision economaidd gorau, yn rhoi gwerth am arian 'uchel' ac yn perfformio orau o ran cyd-fynd â'r briffordd".

Mewn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar y pryd, dyma oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd gyda 25% o'r ymatebwyr yn ei roi fel y dewis cyntaf. 

'Bodoli fel llwybr'

Wrth siarad â Phwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd yr wythnos diwethaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper: "Does dim modd i chi fuddsoddi mewn rhywbeth sydd ddim yn bodoli fel cynllun. Mae'n rhaid i ni wneud y gwaith cynllunio yna. Mae rhywfaint ohono wedi cael ei wneud yn y gorffennol. 

"Felly, mae'r llwybr sydd yno, ac sydd yn debygol o fod y llwybr a ffefrir, yn llwybr gwarchodedig."

Ychwanegodd Mr Hooper: "Yn wahanol i'r sefyllfa ar yr M4, lle nad yw'r llwybr du y mae rhai Aelodau yma wedi galw amdano o'r blaen, yn bodoli bellach fel llwybr y gellir ei gyflawni, mae'r llwybr dros y Fenai yn bodoli fel llwybr. Felly, mae hynny'n helpu yn hynny o beth."

Sut y gallai'r bont newydd edrych?

Yn y cynlluniau o'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn 2018, fe rannodd Llywodraeth Cymru ddyluniadau o'r opsiynau posib, gan gynnwys ar gyfer ffordd gerbydau dwy lôn a ffordd gerbydau pedair lôn o leoliadau gwahanol. 

Roedd y dyluniadau hyn yn cynnwys mathau o bontydd gwahanol hefyd, gan gynnwys Pont Ecstrados Un Lled, Pont Ecstrados Dau Led, Pont Geblau a Phont Gantilifrog Gytbwys. 

  1. Pont Ecstrados Un Lled
Image
Pont Ecstrados Un Lled.jpg
Pont Ecstrados Un Lled, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.

2. Pont Geblau 

Image
Pont Geblau, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.
Pont Geblau, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.

3. Pont Gantilifrog Gytbwys

Image
Pont Gantilifrog Gytbwys, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.
Pont Gantilifrog Gytbwys, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.

4. Pont Ecstrados Dau Led

Image
Pont Ecstrados Dau Led
Pont Ecstrados Dau Led, un o'r dyluniadau ar gyfer yr Opsiwn Porffor yn 2018.

Mae Newyddion S4C yn deall y gallai’r bont gostio tua £670m ar ôl chwyddiant. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai fod yn barod mewn tua wyth i 10 mlynedd.

Mae gan y llywodraeth feddwl agored am sut i dalu am y bont, a dydy hi ddim wedi diystyru unrhyw opsiynau gan gynnwys gofyn am gyfraniad gan Lywodraeth y DU na chwaith godi tollau ar y bont.

Daw'r cynlluniau ar ôl i waith atgyweirio mawr ar Bont y Borth dros y tair blynedd diwethaf achosi oedi i draffig.

Mae tagfeydd hefyd ar brydiau, ac mae’n rhaid cau Pont Britannia mewn gwyntoedd cryfion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.