'Disglair, cynnes': Teulu dyn gafodd ei ladd gan deigr yn talu teyrnged iddo
Mae teulu dyn ifanc gafodd ei ladd gan deigr mewn parc bywyd gwyllt wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel unigolyn "disglair, cynnes a swynol".
Fe aeth William Chapman, 23 oed, i Barc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog ddydd Sadwrn. Tra oedd yno, fe aeth i ardal y teigrod, lle cafodd ei ladd.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod wedi bod yn dioddef o "salwch meddwl difrifol" ers peth amser a'i fod wedi bod yn cymryd "meddyginiaeth gref".
"Mater i’r crwner fydd penderfynu pa ran a chwaraeodd hyn yn ei farwolaeth. Byddem yn gofyn i bawb barchu’r broses honno," meddai'r teulu.
Mae Cyngor Doncaster wedi dechrau ymchwiliad iechyd a diogelwch i'r digwyddiad ac mae Parc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog, ger Doncaster, yn parhau ar gau.
Yn y datganiad nos Fawrth, dywedodd y teulu hefyd fod "cyhoeddi a rhannu cynnwys hynod sarhaus" yn "achosi gofid mawr" iddyn nhw ar adeg pan maen nhw'n "arbennig o fregus".
"Rydyn ni'n gofyn i bobl roi'r gorau i wneud hyn."
Ychwanegodd y datganiad: "Roedd William yn ddyn ifanc disglair, cynnes a swynol, ac roedd ei deulu’n ei garu’n fawr – ac roedd William yr un mor hoff ohonyn nhw."
Pan oedd yn blentyn, fe ymddangosodd William Chapman yn rhaglen ITV May Contain Nuts ac yng nghyfres y BBC True Stories.
Roedd hefyd wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Jackie Palmer yn High Wycombe, Swydd Buckingham.
'Annwyl iawn'
Mewn teyrnged ar Facebook, fe ddywedodd yr ysgol ei bod yn "drist iawn" o glywed am ei farwolaeth, gan ychwanegu: "Roedd hi'n bleser cael gweld William yn datblygu, fel unigolyn ac fel perfformiwr."
Dywedodd yr ysgol y byddai'n cael ei gofio'n "annwyl iawn gan bawb a gafodd y fraint o'i adnabod".
Mae'n ymddangos bod Chapman wedi ffilmio ei hun yn mynd i mewn i ardal y teigrod ac yn mynd tuag at un o'r anifeiliaid cyn iddo gael ei ladd.
Dywedodd llygad-dyst hefyd iddo weld Chapman yn gwisgo clustffonau ac yn "cerdded yn ôl ac ymlaen" ger yr ardal cyn iddo fynd i mewn.
Mae staff Parc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog wedi dweud bod eu "meddyliau a'u cydymdeimlad dwys" gyda theulu Chapman.
Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau bod y teigr Amur yn un prin, o'r enw Altai ac na fyddai'n cael ei roi i gysgu.
Mae Cyngor Doncaster hefyd wedi dweud ei fod wedi'i "dristáu'n fawr" gan yr hyn a ddigwyddodd.
Dywedodd Dan Swaine, cyfarwyddwr gweithredol lleoedd yng Nghyngor Dinas Doncaster:
"Fel yr awdurdod sy'n gyfrifol am drwyddedu Parc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog, gallaf gadarnhau bod y cyngor wedi lansio ymchwiliad iechyd a diogelwch, yn unol â'n dyletswyddau statudol.
"Rydyn ni hefyd yn cydweithio â nifer o asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu ac asiantaethau iechyd, ac yn cefnogi Parc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog yn dilyn y digwyddiad.
"Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach am yr unigolyn na'r ymchwiliad, ac rydym yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd y rhai sydd ynghlwm â'r digwyddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Llun: Llun teulu/PA