Sir Gâr: Disgwyl cadarnhad y bydd dwy ysgol gynradd wledig yn cau
Bydd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn gwneud penderfyniad terfynol ddydd Mercher ynghylch cynlluniau dadleuol i gau dwy ysgol gynradd yn y sir.
Bydd y cyngor llawn yn cyfarfod am 10:00 fore Mercher i benderfynu ar ddyfodol Ysgol Gynradd Meidrim yng ngorllewin y sir, ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.
Mae Cabinet y cyngor eisoes wedi cefnogi'r cynlluniau i gau'r ddwy ysgol, ond bydd angen i'r cyngor llawn gymeradwyo'r cynigion cyn y penderfyniad terfynol.
Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai'r ddwy ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr 2026, gyda threfniadau newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2027.
Mae'r cynigion wedi wynebu gwrthwynebiad gan rieni ac ymgyrchwyr lleol sydd wedi bod yn brwydro i gadw'r ysgolion ar agor.
Mae ymgyrchwyr hefyd wedi ceisio herio'r cynlluniau drwy'r llysoedd, ond fis Mehefin, gwrthododd yr Uchel Lys gais i atal y broses o gau un o'r ysgolion, sef Ysgol Gynradd Meidrim.
Yn ôl y cyngor, mae nifer isel o ddisgyblion, lleoedd gwag a phwysau ariannol ymhlith y rhesymau dros y cynnig i gau'r ysgolion.
Mae'r awdurdod hefyd yn dadlau mai prin yw'r tebygolrwydd y bydd nifer y disgyblion yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf.
Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar Gyngor Sir Gâr gan arwain yr awdurdod gyda'r grŵp annibynnol.
Yn ystod trafodaethau blaenorol, dywedodd y Cynghorydd Jean Lewis, sy'n cynrychioli ward Trelech ar ran Plaid Cymru, nad adeilad yn unig fyddai'n cau, ond y byddai'r penderfyniad yn golygu "cau'r drws ar ddyfodol cymuned".
Pedair ysgol arall
Daw'r penderfyniad ddiwrnod ar ôl i Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Gâr gefnogi camau tuag at gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol pedair ysgol gynradd arall yn y sir, sef Bancffosfelen, Pontiets, Carwe a Blaenau.
Fe allai'r pedair ysgol gau ddiwedd 2027, yn bennaf oherwydd prinder disgyblion.
Roedd rhieni a disgyblion wedi protestio y tu allan i Neuadd y Sir cyn cyfarfod y pwyllgor ddydd Mawrth.
Mae Dr Huw Williams, sy'n rhiant ac yn llywodraethwr yn Ysgol Pontiets, wedi galw am foratoriwm ar gau ysgolion bach a gwledig, nes bod y cyngor yn cynnal golwg strategol ar eu dyfodol ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru.
Bydd Cabinet y cyngor yn penderfynu ar 2 Tachwedd a ddylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol y pedair ysgol.