Trigolion yn dychwelyd adref ar ôl tân mewn tŷ yng Nghydweli
Mae trigolion wedi dychwelyd adref tri diwrnod ar ôl tân ar drydydd llawr tŷ teras yng Nghydweli.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw tua 04:20 fore Mawrth yn dilyn adroddiad o dân ar Stryd y Foneddiges yn y dref.
Ar hyn o bryd mae'r tân yn cael ei drin fel un anesboniadwy, ac mae'r ffordd yn parhau ar gau tra bod gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod trigolion y stryd wedi dychwelyd i'w tai nos Wener.
Aeth criwiau o orsafoedd tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Treforys, Y Tymbl, Caerfyrddin a Phort Talbot i'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn diolch i drigolion a'r gymuned ehangach am eu hamynedd tra'u bod nhw'n cynnal ymholiadau.
Ychwanegodd y llu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r tân a bod unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau cylch cyfyng rhwng 23:00 ar 23 Mawrth a 04:00 fore 24 Mawrth i gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu dwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 027 ar 24/3.