Cneifiwr proffesiynol yn trafod ei brofiad o dderbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 16 oed
Mae dyn o Geredigion sydd wedi teithio’r byd yn cneifio wedi trafod ei brofiad o dderbyn diagnosis o diwmor yr ymennydd yn ei arddegau.
Cafodd Llyr Evans, 24 oed, o Aberystwyth, ddiagnosis o diwmor ar ymennydd ag yntau’n 16 oed.
Yn fachgen “heini ac iach”, doedd dim arwyddion bod "'na unrhyw beth o’i le", heblaw am ei fod yn chwyrnu ac yn cael problemau’n anadlu wrth gysgu.
Ar ôl gweld meddyg am y broblem, cafodd Llyr ei anfon i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin am sgan MRI.
“Fe wnaeth y MRI yna newid popeth,” meddai mam Llŷr, Gaenore.
Fe ddangosodd y sgan bod Llyr wedi cael ffit (seizure) a bod ganddo diwmor ar yr ymennydd.
Roedd y tiwmor yn un gradd isel, ond gan mai llawdriniaeth oedd yr unig opsiwn i’w drin, cafodd ei ruthro i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.
Wedi’r driniaeth, a wnaeth bara pum awr, cafodd y tiwmor ei dynnu ac fe wnaeth Llyr wellhad llawn.
“Dyna oedd y pum awr hiraf ein bywydau," meddai Gaenore.
"Diolch byth, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ac nid yw Llyr wedi profi unrhyw sgil effeithiau.”
Dywedodd Llyr: “Dim ond 16 oeddwn i pan gefais ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, ac fe newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl.”
Ar ôl gwella o’r canser, fe wnaeth Llyr fwrw ymlaen gyda’i diddordeb mawr – cneifio defaid.
Teithiodd i Seland Newydd yn 18 oed, ble mae wedi cwblhau chwe thymor cneifio hyd yma, yn ogystal â phedair yn Norwy.
Erbhyn hyn mae’n teithio’r byd fel cneifiwr defaid proffesiynol.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr afiechyd, fe benderfynodd Llyr a’i ffrind, Gethin, gymryd rhan mewn cystadleuaeth cneifio wyth awr.
Yn ystod yr her, fe lwyddodd y ddau i dorri’r record Brydeinig am y nifer o ddefaid a gneifiwyd, gan gneifio 1,364 dros y cyfnod. Fe wnaeth yr her godi dros £12,000 i elusen Brain Tumour Research.
'Cymhleth'
Ychwanegodd Llyr: “Mae bod yn ifanc ac wynebu rhywbeth mor gymhleth wedi dangos i mi ba mor bwysig yw gofal sydd wedi teilwra i’r unigolyn. Dyw un maint ddim yn ffitio pawb.
“Mae ‘na dros 100 o fathau gwahanol o diwmorau ymennydd, sy’n ei wneud y canser mwyaf cymhleth i ymdrin ag ef.”
Mae’n cefnogi galwadau am ofal pwrpasol i bobl ifanc, “sy'n cydnabod eu hoedran, eu dyfodol, a'u diagnosis penodol.”
Mae Brain Tumour Research wedi rhyddhau maniffesto sydd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu cynyddu mynediad at dreialon clinigol yng Nghymru; dod â diwedd ar anghydraddoldebau o ran mynediad at dechnoleg profi genomig arloesol; a chynyddu buddsoddiad mewn ymchwil i diwmorau'r ymennydd.
Maent yn dweud bod rhai cleifion yn gorfod teithio i Loegr i dderbyn rhai profion hollbwysig i brofi tiwmor yr ymennydd.
'Annerbyniol'
Maent hefyd yn galw am adleoli canolfannau ymchwil i diwmorau'r ymennydd i rannau eraill o Gymru, gan ddweud ei fod wedi’i “ganoli’n drwm yng Nghaerdydd, gan greu rhwystrau daearyddol ac ymarferol i gleifion yng ngorllewin a gogledd Cymru."
Dywedodd Dr Karen Noble, Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil ac Arloesi gyda Brain Tumour Research: “Mae’n annerbyniol nad oes unrhyw dreialon clinigol tiwmorau’r ymennydd wedi bod yng Nghymru ers pum mlynedd.
“Tiwmorau’r ymennydd yw prif achos marwolaeth canser mewn plant a phobl ifanc, ond nid yw’r cleifion yn cael mynediad i driniaethau arloesol.”
Dywedodd bod maniffesto’r elusen yn “fap ffordd clir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i newid hynny.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.