Cafodd rhannau o Wrecsam eu taro gan doriad trydan sylweddol ac annisgwyl fore Sadwrn a effeithiodd ar dros 220 o ardaloedd cod post.
Yn ôl SP Energy Networks, ardaloedd â chodau post yn dechrau ag LL11, LL12 ac LL13 gafodd eu heffeithio. Cafodd y cyflenwad ei adfer wedi rhai oriau.
Parc Caia, ardal breswyl boblog i’r dwyrain o ganol y ddinas, oedd wedi’i tharo waethaf, yn ôl y wasg leol.
Cafodd y toriad ei riportio am 09:10, ac roedd peiriannydd ar y safle erbyn 10:05.
Roedd SP Energy Networks wedi rhybuddio y gallai’r gwaith bara tan 15:30 gan fod eu hymchwiliadau’n parhau.
Ond mae’r cwmni bellach wedi cadarnhau bod y trydan wedi dod yn ôl am 11:23.
Llun: PA